Mae’n rhaid i Gymru wneud mwy o’i sgiliau iaith i greu cenedl gynhwysol – Adroddiad

Mae adroddiad newydd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn dweud bod yn rhaid i Gymru wneud gwell defnydd o’i sgiliau iaith i ddatblygu cenedl fwy ‘agored, cynhwysol ac empathig’.

Mae’r adroddiad, Trwy Brism Iaith, yn casglu canfyddiadau symposiwm rhyngwladol tri diwrnod Cymdeithas Ddysgedig Cymru a gynhaliwyd fis Tachwedd diwethaf. Mae’n rhoi manylion ar fanteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, ac yn gwneud sawl argymhelliad, yn enwedig mewn perthynas â chwricwlwm newydd Cymru sy’n lansio’r flwyddyn nesaf.

Mae’n annog gwell integreiddio rhwng uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu a defnyddio iaith a’i pholisïau. Mae’n dweud y gall y cwricwlwm newydd helpu i gyflawni’r uchelgeisiau hynny, a gwrthdroi’r dirywiad yn yr astudiaeth o ieithoedd ymhlith plant ysgol. Ers 2012, mae’r nifer sy’n sefyll arholiadau Safon Uwch yn y Gymraeg a Chymraeg fel Ail Iaith wedi lleihau yn sylweddol Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, cafwyd lleihad o 53% hefyd yn y nifer sy’n sefyll arholiadau TGAU ieithoedd modern, a lleihad o 48% yn y nifer sy’n sefyll arholiadau Safon Uwch yn y pynciau hynny, ac mae cyfradd y lleihad yn cynyddu

Mae manteision bod yn genedl amlieithog yn bellgyrhaeddol. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at dystiolaeth a gyflwynwyd yn y symposiwm, sy’n dangos manteision niwrolegol dysgu iaith. Mae pobl sy’n siarad mwy nag un iaith yn dangos mwy o greadigrwydd, hyblygrwydd ac empathi. Mae’r sgiliau hyn o fudd i bobl yn eu cymunedau lleol ac mewn perthynas â gweddill y byd, ac yn sicrhau manteision diwylliannol ac economaidd.

“Mae angen i ni weithio’n galetach i sicrhau fod y dwyieithrwydd hwnnw yn weladwy ac i weld gwerth ynddo oherwydd y bydoedd eraill y mae’n agor drysau arnynt i ni ac i’n plant” meddai’r Athro Claire Gorrara, un o gyd-drefnwyr y digwyddiad. “Mae’n rhaid i ni adeiladu ymwybyddiaeth yng Nghymru o’r cyfoeth o gyfleoedd a manteision sy’n dod gyda dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, sy’n cyrraedd ymhell y tu hwnt i’r gallu arwynebol o fedru enwi gwrthrychau gyda mwy nag un gair.”

Mae’r adroddiad yn argymell sut y dylai Llywodraeth Cymru integreiddio ystod o bolisïau sy’n effeithio ar iaith. Dylai uchelgeisiau sy’n ymwneud â dysgu a defnyddio iaith redeg fel llinyn drwy bolisïau allweddol, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr, a’r Strategaeth Ryngwladol, ymhlith mentrau eraill.

Mae’r darlithoedd, y seminarau a’r paneli trafod o’r symposiwm i gyd ar gael i’w gwylio ar-lein.

Gellir gweld manylion y paneli yma hefyd.

Roedd y symposiwm yn cynnwys gwaith newydd un ar ddeg o feirdd yng Nghymru hefyd, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y digwyddiad; mae’r cerddi hyn ar gael ar-lein hefyd.