Gwneud Cysylltiadau: Digwyddiad Cwrdd a Chyfarch Aberystwyth
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn Aberystwyth, i gymryd rhan mewn diwrnod o ddod â phobl at ein gilydd, fel rhan o’n hymdrechion i fod yn Gymdeithas gynhwysol, groesawgar ac i ddangos y rôl bwysig y gall Cymdeithas Ddysgedig Cymru a’i Chymrodyr ei chwarae wrth helpu i ddod o hyd i atebion i heriau’r byd go iawn.
‘Cwrdd a Chyfarch’
Rydym wedi trefnu digwyddiad ‘Cwrdd a Chyfarch’ yn y Ganolfan Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth (Dydd Mawrth 13 Chwefror am 12.30-1.30) ar gyfer Cymrodyr, uwch arweinwyr yn y brifysgol ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn darganfod mwy amdanom ni.
“Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath yr ydym wedi’i gynnal,” meddai Helen Willson, Rheolwr Ymgysylltu Strategol y Gymdeithas.
“Mae’n rhan o ffordd newydd o weithio ac ymgysylltu â’n Cymrodyr. Rydym eisiau bod yn fwy gweladwy fel tîm, a chodi proffil Cymdeithas Ddysgedig Cymru gyda rhanddeiliaid a Chymrodyr posibl yn y dyfodol.
“Mae’r digwyddiad yn fwriadol anffurfiol, ac mae’n cynnig cyfle i bobl sgwrsio gyda staff Cymdeithas Ddysgedig Cymru a’i gilydd heb unrhyw agenda.
“Rydym eisiau i bobl weld wyneb dynol y sefydliad, ac i syniadau gael eu tanio drwy sgwrsio a rhwydweithio.
“Rydym yn ddiolchgar dros ben am yr help i drefnu’r diwrnod a ddarparwyd gan ein Cynrychiolwyr Prifysgol yn Aberystwyth, Cymrodyr yr Athro Eleri Pryse, a’r Athro Iwan Morus.”
Digwyddiad Rhwydweithio Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar
Rydym yn trefnu digwyddiad ar y cyd yn ddiweddarach yn y prynhawn hefyd ar gyfer ymchwilwyr gyrfa cynnar yn Aberystwyth.
Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni arddangos gwaith ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar, a chyflwyno ein hunain a Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, ein Rheolwr Rhaglen ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr
“Rydym yn gobeithio y bydd y cyfarfod yn caniatáu i ymchwilwyr yn Aber ddeall y rôl rydym yn ei chwarae, a sut y gallwn eu cefnogi a helpu eu rhwydwaith mewnol eu hunain i ddatblygu,” meddai Helen.
“Mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad anffurfiol, gyda sgwrs fer a rhywfaint o weithgareddau rhyngweithiol ond yn bennaf, mae’n gyfle i sgwrsio a datblygu’r rhwydweithiau rydyn ni’n gwybod bod ymchwilwyr gyrfa gynnar yn eu gwerthfawrogi.
“Rwy’n falch iawn o fod yn mynychu gyda Barbara. Mae ymgysylltu â’n Cymrodyr sefydledig a chyda’r ymchwilwyr hynny ar ddechrau eu teithiau academaidd yn hanfodol.
“Rydyn ni eisiau i’n Cymrodyr ddeall pa mor hanfodol ydyn nhw yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud.
“Rydym yn gobeithio y byddant yn gweld bod y Gymdeithas yn cynnig ffordd iddynt helpu i dyfu gallu’r sector ymchwil yng Nghymru, yn anad dim, drwy gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr.”