Medalau 2019

Dyfarnwyd medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru neithiwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru mewn seremoni’n dathlu llwyddiant yn y byd academaidd.

Mae medalau academi genedlaethol Cymru’n cydnabod cyfraniadau rhagorol mewn ymchwil ac ysgolheictod, gan ddathlu llwyddiant yr unigolion a anrhydeddir, a’r sector academaidd yng Nghymru, o brifysgolion i ysgolion.

Eleni dyfarnodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru saeth medal gyda phob un wedi’i enwi er anrhydedd i ffigurau arwyddocaol yn hanes nodedig Cymru.

Mae Medal Frances Hoggan yn cydnabod cyfraniad ymchwilwyr benywaidd rhagorol ym meysydd STEMM sydd â chysylltiad â Chymru. Eleni, dyfarnwyd y fedal i’r Athro Tavi Murray FLSW o Brifysgol Abertawe i gydnabod ei gwaith ym maes ymchwil rhewlifol.

A hithau’n Wyddonydd Amgylcheddol sy’n arwain y byd, mae’r Athro Murray’n gweithio ar y blaen ym maes rhewlifeg ac wedi torri tir newydd yn y maes gyda defnydd arloesol o dechnegau geoffiseg a synhwyro o bell. Mae’n ymchwilydd rhyngddisgyblaethol amlwg sy’n pontio ffiseg, daearyddiaeth a chyfrifiadureg yn ei hymdrech i ddarparu gwell cyfyngiadau ar gyfraniadau rhewlifol at godi lefel y môr yn fyd-eang. Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Murray: “Mae’n anrhydedd ac rwyf i wrth fy modd yn derbyn y fedal hon gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Nod fy ymchwil yw gwneud gwell rhagfynegiadau o’r codiad yn lefel y môr o orchuddion iâ yr Ynys Las ac Antarctica, sydd mor bwysig i ddyfodol ein planed. Rwyf i’n gobeithio ysbrydoli rhagor o wyddonwyr ifanc, yn enwedig merched a menywod, i weithio ym maes gwyddoniaeth ac ar faterion yn ymwneud â’r amgylchedd a newid yn yr hinsawdd”.

Dyfernir medalau Dillwyn y Gymdeithas i gydnabod ymchwil gyrfa gynnar. O ystyried ansawdd eithriadol yr enwebiadau a ddaeth i law eleni, mewn dau gategori mae’r Gymdeithas am y tro cyntaf wedi dewis dyfarnu dwy fedal i ymchwilwyr gyrfa gynnar, gyda dwy fedal mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM), a hefyd yn y Gwyddorau Cymdeithasol.

Dyfarnwyd medalau Dillwyn ar gyfer STEMM i Dr Rebecca Melen, Uwch-ddarlithydd a Chymrawd EPSRC ym Mhrifysgol Caerdydd a Dr Emily Shepard, Athro Cyswllt yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ei gyrfa hyd yma, mae Dr Melen wedi gwneud cyfraniad rhagorol mewn cemeg, ym maes catalysis, ac ynni. Mae wedi datblygu a defnyddio adweithyddion ar gyfer cataleiddio trawsnewidiadau cemegol, ac wedi gweithio i wneud catalysis yn llai gwenwynig. Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Melen: “Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am y fedal hon. Rwyf i’n ymchwilio ym maes catalysis ac mae catalyddion yn gweithio drwy ostwng y rhwystr ynni ar gyfer adwaith cemegol ac felly’n sicrhau bod adweithiau’n fwy effeithlon o lawer. Rhaid i fi ddiolch i fy ngrŵp ymchwil am bopeth maen nhw wedi’i wneud i fy helpu i lwyddo yn y maes hwn.”

Biolegydd yw Dr Shepard sydd ag enw da byd-eang am ei gwaith arloesol ar ehediad adar ac adweithiau ymddygiadol adar i amgylchedd yr awyr. Mae’n wyddonydd rhyngddisgyblaethol, sy’n cydweithio gyda pheirianwyr awyrennau, meteorolegwyr, mathemategwyr, ffisegwyr a ffisiolegwyr. Wrth dderbyn y fedal i gydnabod ei gwaith, dywedodd Dr Shepard: “Dechreuais weithio ar ehediad yn 2010 ac mae Prifysgol Abertawe wedi darparu cymorth hanfodol i sicrhau bod yr ymchwil hwn ar waith ac yn adeiladu momentwm. Mae wedi bod yn bleser gweithio yn y sector academaidd yng Nghymru a chael gweithio’n ymarferol gyda bywyd gwyllt ysblennydd Cymru, ac mae’n anrhydedd i mi gael cydnabyddiaeth i’r gwaith drwy’r wobr hon.”

Dyfarnwyd y medalau Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithasol, Economeg a Busnes eleni i Dr Stuart Fox a Dr Luke Sloan, ill dau o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

Dyfarnwyd y fedal i Dr Fox am ei waith yn astudio agweddau ac ymddygiad gwleidyddol a dinesig, gan ddefnyddio arolygon cymdeithasol a dulliau ymchwil meintiol. Mae ei waith wedi ystyried ymgysylltu gwleidyddol ymhlith pobl ifanc, yn enwedig yn ystod Refferendwm yr UE a Brexit, ac yn etholiad cyffredinol 2017. Mae ei waith diweddar hefyd wedi archwilio gwirfoddoli ymhlith ieuenctid, ac yn benodol a all hyn helpu i ennyn diddordeb mwy o bobl ifanc mewn gwleidyddiaeth a lleihau anghydraddoldebau o ran niferoedd pleidleisio, ac mae wedi gweithio gyda Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar gyllido gwirfoddoli. Wrth dderbyn y wobr dywedodd Dr Fox:

“Gall bywyd ymchwilydd gyrfa gynnar fod yn hynod o heriol ac anwadal, ac mae’n foddhaol iawn gweld gwaith caled yn cael cydnabyddiaeth. Rwyf i’n hynod o ddiolchgar i fy nghydweithwyr am fy enwebu a chynnig cymorth ac arweiniad amhrisiadwy drwy gydol fy ngyrfa academaidd, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr cymdeithasol yng Nghymru.”

Cydnabuwyd Dr Sloan am ei waith sydd wedi edrych ar sut y gellir defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig Twitter, i ddatblygu ymchwil cymdeithasol. Mae ei waith yn y maes yn arbennig oherwydd ei fod yn mynd y tu hwnt i ofyn pryd y gall Twitter ddweud rhywbeth wrthym am y byd i holi cwestiynau mwy cymhleth am foeseg a methodoleg yr ymchwil hwn. Dywedodd Dr Sloan: “Rwyf i’n teimlo’n wylaidd yn derbyn y wobr hon. Mae’n syndod bendigedig ac rwyf i’n gwerthfawrogi’n fawr”.

Dyfarnwyd Medal Hugh Owen i’r Athro Enlli Thomas, Athro a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Effaith, yr Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor, am gyfraniadau i ymchwil addysgol, i gydnabod ei harbenigedd ar y Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaethau mewn addysgu, dysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Thomas: “Rwy’n falch iawn o fod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr arbennig hon eleni, ac yn hynod ddiolchgar i’r rhai hynny a fy enwebodd ac i’r Gymdeithas am ddyfarnu’r fedal hyfryd hon i mi gan roi cydnabyddiaeth i’m gwaith.  Mae hi wir yn fraint ac yn anrhydedd cael bod wedi gweithio mewn maes sydd yn agos iawn at fy nghalon ers dros 20 mlynedd bellach – sef datblygiad y Gymraeg a dwyieithrwydd mewn plant – ac mae’n braf cael bod yn rhan o’r bwrlwm cenedlaethol wrth i ni lunio strategaethau ac ymyraethau addysgol, yn seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn cymell rhagor o ddefnyddwyr o’r Gymraeg erbyn 2050.”

Dyfernir Medal Menelaus i gydnabod rhagoriaeth mewn unrhyw faes peirianneg a thechnoleg i ymarferwr diwydiannol a all ddangos cysylltiad penodol â Chymru.Eleni, dyfarnwyd y fedal i’r Athro Roger Owen FREng FRS FLSW, Athro Ymchwil Peirianneg, Prifysgol Abertawe, am ei waith arloesol yn efelychu problemau mewn gwyddoniaeth a pheirianneg yn defnyddio dulliau cyfrifiannu. Dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf, mae’r Dull Elfen Derfynedig wedi trawsnewid gweithdrefnau datrys ym mhob cangen o beirianneg bron, drwy ddisgrifio ymddygiad strwythurau a systemau mewn ffurf cyfrifannu wahanol, ac mae hefyd wedi cael effaith sylweddol ar nifer o feysydd gwyddonol, er enghraifft peirianneg fiofeddygol a’r gwyddorau bywyd. Dywedodd:

“Oherwydd apêl ryngwladol modelu cyfrifiannu, mae’r rhan fwyaf o fy ngweithgareddau ymchwil wedi cynnwys prifysgolion a sefydliadau diwydiannol yn fyd-eang. O ganlyniad, y Fedal hon yw un o’r ychydig ddyfarniadau rwyf i wedi’u derbyn o Gymru, ond o ystyried y parch a roddir i wyddoniaeth a thechnoleg yn y genedl, mae’n un sy’n uchel iawn ar fy rhestr o gyflawniadau.

Er bod yr hanner can mlynedd ddiwethaf o fodelu cyfrifiannu wedi profi’n gyffrous a boddhaol, rwyf i’n hyderus y bydd meysydd gwyddonol sy’n datblygu’n sicrhau y bydd y dyfodol yn fwy heriol fyth. Rwyf i’n credu y dylem ni sydd wedi gweithio, ac sy’n parhau i weithio, ym maes modelu cyfrifiannu deimlo fod y profiad yn anrhydedd.”

Gan ymateb i’r enillwyr a’u hymchwil rhagorol, dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Mae’n wych fod gennym ni’r amrywiaeth hwn o ragoriaeth sy’n cael ei gydnabod gyda dyfarnu’r medalau hyn. Mae’n arbennig o galonogol eu bod yn cynnwys pedwar ymchwilydd ifanc hynod dalentog.”

I gael rhagor o wybodaeth am y medalau, dilynwch y ddolen hon.