Cymrodyr newydd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymateb ar ôl cael eu derbyn i Gymrodoriaeth

Mae’r Athro Peter Excell, Athro Emeritws Cyfathrebu yng Nghyfadran y Celfyddydau, Gwyddorau a Thechnoleg, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Maxine Penlington OBE yn ymuno â 41 o Gymrodyr newydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae’r ddau Gymrawd wedi sôn eu bod yn ei theimlo’n anrhydedd cael ymuno â Chymrodoriaeth y Gymdeithas.

Dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Maxine Penlington OBE FLSW: “Mae’n anrhydedd mawr ac rwy’n hynod o ddiolchgar i gael fy ethol yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

“Er bod y dyfarniad wedi’i wneud ar sail fy nghyfraniad i arweinyddiaeth ym maes addysg uwch ar hyd fy ngyrfa broffesiynol, mae’n golygu llawer i mi’n bersonol bod fy mywyd proffesiynol yn dod i benllanw gyda’r cyfle i arwain Bwrdd Llywodraethu Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a chefnogi rôl y Brifysgol yn darparu cyfleoedd addysgol trawsnewidiol i bobl yn y rhanbarth lle mae fy nghartref yng ngogledd ddwyrain Cymru.

“Mae derbyn cydnabyddiaeth i fy nghyfraniad yng ngwlad fy mebyd, ochr yn ochr â fy nghydweithiwr academaidd nodedig, yr Athro Excell, yn golygu mwy nag y gallaf ei fynegi mewn geiriau.”

Ychwanegodd yr Athro Excell FLSW – y mae ei Gymrodoriaeth yn dilyn dyfarnu iddo Ddoethuriaeth Uwch gan Brifysgol Caer ym mis Mawrth: “Mae cael eich ethol yn Gymrawd yn anrhydedd aruthrol, ond fel gyda dyfarnu doethuriaeth uwch i mi yn ddiweddar, rhaid i mi ddiolch i’r timau rhagorol rwyf i wedi gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd.

“Rwyf i’n credu y bydd yr anrhydedd hwn yn cyfoethogi enw da Prifysgol Glyndwr Wrecsam a’r timau rwyf i wedi gweithio gyda nhw yno.

“Gobeithio hefyd y bydd y dyfarniad hwn yn annog rhai o aelodau uwch eraill y brifysgol i ymgeisio am Gymrodoriaeth.”