Newyddion y Cymrodyr: Mehefin 2023

Bydd yr Athro Mererid Hopwood yn cael ei chyflwyno i Fwrdd yr Orsedd yn yr Eisteddfod eleni ar gyfer rôl Archdderwydd, 2024-27. Hi fydd yr ail Archdderwydd benywaidd ar ôl yr Athro Christine James FLSW. 

Bydd yr Athro Menna Elfyn yn cymryd rhan yng Ngŵyl Farddoniaeth Ledbury ar 2 Gorffennaf, ac yn dilyn hynny, bydd ei chyfrol ddiweddaraf, Cellängel, yn cael ei lansio yn Sweden, gyda chyfieithiad newydd Swedeg gan y bardd nodedig Marie Tonkin.

Mae’r Athro Stuart Taylor wedi ennill Gwobr Amgylchedd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol am ei waith arloesol i greu catalyddion sy’n helpu’r amgylchedd, gan gynnwys prosesau sy’n puro aer halogedig.

Mae The Strauss Dynasty and Habsburg Vienna gan yr Athro David Wyn Jones ,wedi cael ei gyhoeddi gan CUP. Mae’n archwilio sut roedd y teulu yng nghanol sîn cerddoriaeth cymdeithas Habsburg Fienna am dros ganrif.

Yn ddiweddar, derbyniodd yr Athro Michael Levi Wobr Troseddeg Ewrop. Ef yw’r unig berson i dderbyn gwobrau oes am ysgolheictod ac ymchwil gan y Cymdeithasau Troseddeg Americanaidd, Prydeinig ac Ewropeaidd.

Gyda thristwch y cyhoeddwn farwolaeth ddiweddar dau o’n Cymrodorion. Defnyddiodd yr Athro Mike Bruford, a fu farw fis Ebrill, ei astudiaeth o eneteg gadwraeth i warchod rhag colli bioamrywiaeth, ac ef oedd Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol cyntaf Prifysgol Caerdydd. Mae’r newyddion newydd ein cyrraedd ni bod yr Athro Alan Bull wedi marw yn 87 oed wedi 60 mlynedd o yrfa ym maes bacterioleg a mycoleg. Bydd ei deulu yn trefnu digwyddiad i’w goffáu gyda hyn.