Mae ‘heddwch’ yn fwy nag absenoldeb rhyfel: Lwybrau tuag at Heddwch, 7 Chwefror 2024
Nawr, efallai yn fwy nag erioed, mae angen syniadau newydd arnom ar yr hyn rydyn ni’n ei olygu wrth fyd heddychlon, a sut mae dulliau sy’n ceisio heddwch yn edrych.
Felly, mae Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn gyffrous i fod yn gweithio mewn partneriaeth gydag Academi Heddwch i gynnal digwyddiad bwrw syniadau, ‘Llwybrau tuag at Heddwch’ ar ddydd Mercher 7 Chwefror 2024.
Prif nod y digwyddiad ydy hyrwyddo ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o heddwch a dulliau sy’n ceisio heddwch yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’r nodau hirdymor yn cynnwys denu cyllid ar gyfer ymchwil ar gyfer prosiectau pellach, ymgysylltu â pholisi a chymunedau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ymarferol, yn ogystal â chyfrannu at rôl cenhadaeth ddinesig Prifysgolion Cymru.
Mynegiannau o ddiddordeb
Felly, rydym yn chwilio am ddeuddeg ymchwilydd gyrfa cynnar* o unrhyw gefndir disgyblaethol sydd â diddordeb mewn cyfrannu at ddatblygu agenda ymchwil ar ‘Lwybrau tuag at Heddwch’. Dylai eu gwaith ddisgyn o fewn unrhyw un o’r meysydd eang canlynol:
- Cymunedau lleol a gwrthdaro
- Addysg a chyfathrebu
- Technoleg fel achos ac ateb
*Rhaid i Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar fod wedi cwblhau eu PhD erbyn iddynt gyflwyno eu mynegiant o ddiddordeb.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: 14 Ionawr 2024
Bydd Academi Heddwch yn noddi’r digwyddiad bwrw syniadau hwn, fydd yn cael ei gynnal mewn person, a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu gofyn am fwrsariaethau ar gyfer teithio a llety.
Bydd yr Athro Colin McInnes, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac arweinydd ymchwil academaidd Academi Heddwch Cymru, yn hwyluso’r sesiwn undydd.
Mae Colin McInnes yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac mae’n Arweinydd Ymchwil Academaidd ar gyfer Academi Heddwch Cymru/Wales Peace Institute. Mae ganddo gadair bersonol o fewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle roedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd) hyd at fis Medi 2023. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth iechyd ryngwladol a rhwng 2008-17 enillodd y Gadair UNESCO mewn HIV/AIDS a Diogelwch Iechyd, y Gadair UNESCO gyntaf yng Nghymru. Mae wedi gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd, ac roedd yn Gynghorydd Arbennig i Bwyllgor Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin. Rhwng 2017-22 roedd yn Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y DU dros UNESCO a chynrychiolodd y DU ar Fwrdd Gweithredol UNESCO ac ar ei Gomisiwn Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol.
Gallwch ddarllen rhagor o fanylion am sut i gyflwyno datganiad o ddiddordeb yma..