Penodi Dr Rowan Williams FLSW yn Gadeirydd Academi Heddwch Cymru

Academi Heddwch Cymru wedi cyhoeddi mai cyn Archesgob Cymru a Chaergaint, Yr Athro Rewan Williams, yw ei Chadeirydd cyntaf.

Meddai’r Dr Rowan Williams: “Mae gan Gymru draddodiad hir o weledigaeth ryngwladol ac ymrwymiad i gymod cymdeithasol a chydwladol. Mae’n bleser ac yn anrhydedd i fod yn rhan o’r fenter newydd hon, sy’n ceisio rhoi bywyd newydd i’r traddodiad hwn ar adeg pan fo’n byd ni mewn dirfawr angen o fodelau sy’n dangos dulliau creadigol a chydweithredol o greu heddwch a thangnefedd.” 

Union flwyddyn yn ôl, daeth Academi Heddwch Cymru i fodolaeth gan ddwyn ynghyd gynrychiolwyr o holl brifysgolion Cymru, y Gymdeithas Ddysgedig, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru i gydweithio er mwyn ymestyn traddodiad cryf Cymru o ran hyrwyddo a gweithio dros heddwch.  Bellach mae ganddi gydlynydd, Ameerah Mai, sydd yn gweithio o gartref yr Academi yn y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd.

Meddai Dr Mererid Hopwood, Ysgrifennydd Academi Heddwch: “Mae cael croesawu Dr Rowan Williams i gadair Academi Heddwch yn benllanw llawen iawn i flwyddyn gyntaf yr Academi. Rydym yn diolch i Dr Aled Eirug a Dr Einir Young am lenwi’r bwlch dros dro, ac yn edrych ymlaen at gael cwmni’r tri wrth i’r Academi ddatblygu ei rhaglen waith.

Amcanion cyffredinol Academi Heddwch yw sicrhau bod:

  • Cymru’n gwneud cyfraniad i ymchwil ac ymarfer heddwch, gyda’r ymchwil hwnnw o ansawdd a gaiff ei gydnabod yn rhyngwladol
  • ffocws ar heddwch i’w weld yn strategaethau a pholisïau perthnasol Llywodraeth Cymru
  • y cyhoedd yn ymddiddori’n fyw yn ymchwil ac ymarfer heddwch yng Nghymru

Yn 2014 cefnogodd y Senedd/Cynulliad Cenedlaethol egwyddor sefydlu yr Academi Heddwch, gan gydnabod y gallai ‘ychwanegu gwerth i waith y Cynulliad ac i gymdeithas ddinesig yn ehangach’.  Arweiniodd hyn at sefydlu Menter Academi Heddwch Cymru (elusen fach a ffurfiwyd yn 2015). Nod Menter Academi Heddwch Cymru oedd sefydlu Academi Heddwch Cymru a gwnaed hynny y llynedd ar Fedi 21, 2020.

Drwy ddatblygu a chyd-drefnu cymuned annibynnol o ymchwilwyr mewn meysydd cysylltiedig, mae Academi Heddwch wedi dechrau ar y gwaith o roi heddwch yn gadarn ar yr agenda cenedlaethol. Ar y llwyfan rhyngwladol, mae eisoes wedi sefydlu cysylltiad gyda rhai o sefydliadau heddwch y byd.

Gwaith Diweddar

  • gweithio gydag Eisteddfod Ryngwladol Llangollen i gynnal 6 digwyddiad yn y ‘Tent Tangnefedd’; gan gynnwys y Ddarlith Heddwch gyda Begoña Lasagabaster o’r Cenhedloedd Unedig; trafodaethau panel gydag arbenigwyr o Gymru a’r byd; perfformiad i gofio Srebrenica a darlleniadau gyda beirdd PEN Cymru a Gwlad y Basg;
  • cynnal seremoni Gwobrau Heddychwyr Ifanc, lle dathlwyd cyfraniadau pobl ifanc drwy’r wlad i faes heddwch. Roedd y gwobrau’n cynnwys gwobr yr ‘Heddychwr Ifanc’ a’r ‘Dinesydd Byd-eang Ifanc’;
  • cydlynu prosiect amlweddog sy’n bartneriaeth rhwng Cymru/Gogledd America i ddathlu canrif Apêl Merched Cymru, sef deiseb ryfeddol yn ‘hawlio heddwch’ ac a gasglodd ymron i 400,000 o lofnodion gan fenywod o Gymru.