Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi a Materion Cyhoeddus

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn canolbwyntio’n bennaf ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) ar gyfer ein gwaith polisi.  Mae’r Bil yn diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ac yn creu Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru newydd a elwir y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY).

Bydd y corff hwn yn gyfrifol am gyllido, goruchwylio a rheoleiddio addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru.

Rhoddodd yr Athro Hywel Thomas (Llywydd) a’r Athro Helen Fulton (Is-lywydd, HASS) dystiolaeth i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar 9 Rhagfyr, a mae hyn wedi ei ategu gan dystiolaeth ysgrifenedig. Mae ein cyflwyniad wedi canolbwyntio ar yr agweddau sy’n berthnasol i ymchwil ac arloesi. Rydym yn galw am ddiogelu cyllid QR/ymchwil craidd ac am ddyletswydd strategol ychwanegol ar gyfer ymchwil.

Gallwch wylio’r sesiwn yma.

Yn 2022, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Senedd wrth i’r Bil symud ymlaen i’r cam nesaf.


Strategaethau Arloesi i Gymru

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal rhaglen o weithgareddau i helpu i lywio a gwella polisïau ac arferion arloesi yng Nghymru.  Mae’r rhaglen yn cael ei harwain gan yr Athro Rick Delbridge, cynghorydd arbennig i’r Llywydd ar arloesi, ac yn cael ei chefnogi gan Dr Sarah Morse, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus y Gymdeithas a Dr Justyna Prosser, ein Cynorthwyydd Polisi llawrydd.

Mae hon yn rhaglen amserol o ystyried cyhoeddi Strategaeth Arloesi BEIS ar gyfer y DU, Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar, pwysigrwydd cynyddol agenda seiliedig ar le, ac ymrwymiad llywodraeth y DU i adolygu gwariant i gynyddu gwariant ar ymchwil a datblygu 35%, i £20 biliwn yn ystod y 3 blynedd nesaf.  Disgwylir i Bapur Gwyn arfaethedig Llywodraeth y DU ar y Gronfa Codi’r Gwastad amlinellu cynllun i sicrhau bod cyfran uwch o wariant y llywodraeth ar ymchwil a datblygu yn cael ei fuddsoddi y tu allan i De Ddwyrain Fwyaf y DU.

Ar yr un pryd, mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ei pholisïau arloesi ac ar hyn o bryd, mae’n datblygu strategaeth drawslywodraethol integredig newydd ar gyfer arloesi.   Mae’r drafodaeth gyntaf, a oedd yn ystyried y cyd-destun, y datblygiadau, a ble nesaf ar gyfer polisïau arloesi i Gymru, ar gael ar ein gwefan. Edrychodd yr ail ddigwyddiad ar wersi o wledydd bach arloesol, a bydd yr hanes ar gael yn fuan. Bydd trafodaethau yn y dyfodol yn ystyried rôl parciau gwyddoniaeth, a chytundebau twf dinesig a rhanbarthol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â policy@lsw.wales.ac.uk.


Codi’r Gwastad / Levelling Up

Ar 25 Ionawr, bydd Cynghrair yr Academïau Celtaidd yn cynnal cyfarfod rhithwir i Gymrodyr ac Aelodau Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Iwerddon a Chymdeithas Frenhinol Caeredin i drafod papur gwyn Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU. Bydd yn gyfle i (gobeithio) fyfyrio ar y cynigion, ac i lywio ymateb Cynghrair yr Academïau Celtaidd

Os hoffech ymuno â’r sgwrs, cysylltwch â Dr Sarah Morse.


Ymgynghoriad HEFCW: Cronfa Cyhoeddiadau Astudiaethau Cymru

Mae’r Gymdeithas yn croesawu cynigion CCAUC i ddiwygio’r trefniadau ar gyfer Cronfa Cyhoeddiadau Astudiaethau Cymru, a bydd yn paratoi ymateb yn y flwyddyn newydd. Os hoffech gyfrannu cysylltwch â Dr Sarah Morse.