Prif Weithredwr

Martin oedd Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru ac ers 2010 mae wedi arwain yr elusen drwy gyfnod o ddatblygu strategol a thwf na welwyd ei debyg. Mae hyn wedi cynnwys sefydlu rhaglenni Cymru dros Heddwch a Hub Cymru Africa, yn ogystal â chydlynu gwaith ysgolion a digwyddiadau cyhoeddus y Ganolfan. Mae ganddo brofiad sylweddol yn datblygu prosiectau a phartneriaethau newydd ar draws y trydydd sector, ysgolion a sefydliadau addysg uwch.

Ar ôl cymhwyso’n wreiddiol fel athro, mae gan Martin gefndir addysgol cryf ac mae wedi gweithio’n uniongyrchol gyda miloedd o athrawon a dysgwyr. Mae’n Gadeirydd Cynghrair Addysg Fyd-eang Cymru ac yn arbenigwr ar y dull Athroniaeth i Blant, ac wedi cynrychioli’r sector rhyngwladol ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru. Mae ei benodiadau blaenorol yn cynnwys ymddiriedolwr WCVA, aelod o Gomisiwn Newid Hinsawdd Cymru a chadeirydd panel grantiau Cyswllt Cymunedau Cymru Affrica.