Yr Athro Andrew Linklater

Mae’n ddrwg gennym adrodd y newyddion am farwolaeth ddiweddar yr Athro Andrew Linklater FLSW, a oedd yn un o Gymrodyr Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Ganwyd yr Athro Linklater yn Aberdeen,  ac ar ôl treulio amser yn Awstralia ac ym Mhrifysgol Keele, daeth yn 10fed Athro Woodrow Wilson mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2000.

Fe wnaeth ei lyfr Transformation of Political Community, a gafodd ei gyhoeddi ym 1998, bledio’r achos dros gymunedau gwleidyddol yn cael eu llywodraethu gan ddeialog a chaniatâd, yn hytrach na phŵer a grym. Yn fwy diweddar, ysgrifennodd yn helaeth ar y syniad o ‘wareiddiad’, trwy waith Norbert Elias, a’i effaith ar gysylltiadau rhyngwladol, a sut mae gwladwriaethau’n cael eu ffurfio.

Rydym yn cydymdeimlo â theulu, ffrindiau a chydweithwyr yr Athro Linklater.