Yr Athro Nighel John

Mae’r Athro Nigel John FLSW wedi derbyn doethuriaeth uwch – Doethur mewn Gwyddoniaeth (DSc) – gan Brifysgol Caer. 

Mae ymchwil yr Athro John wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddefnyddio delweddu ac amgylcheddau rhithwir i gymwysiadau meddygol. 

Cyflwynodd 12 o’i gyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol o bob rhan o’i yrfa ymchwil, ynghyd â sail resymegol dros yr effaith y mae’r ymchwil hon wedi’i wneud. Y nod fu gwella’r driniaeth a’r diagnosis o wahanol anhwylderau er budd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’u cleifion.

Yn dilyn asesiad gan ganolwyr allanol, dyfarnodd Prifysgol Caer y Doethur mewn Gwyddoniaeth DSc iddo ym mis Mehefin 2021