Realiti Newydd ar gyfer Diogelwch Iechyd Byd-eang – adroddiad

IaC newport logos

Datganiad i’r Wasg

18.02.2016

Trafodaethau byd-eang ar argyfyngau iechyd rhyngwladol yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd

Cyfarfu uwch arbenigwyr iechyd yng Nghymru, gan gynnwys Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, ag arbenigwyr diogelu iechyd rhyngwladol yn y Celtic Manor Resort yr wythnos hon i drafod ffyrdd i wella’r ymateb byd-eang i argyfyngau iechyd cyhoeddus.

Trefnwyd y cyfarfod hwn o grŵp arbenigol lefel uchel gan y Cyngor Rhyngweithio, melin drafod o gyn arweinwyr byd.

Yn y cyfarfod Realiti Newydd ar gyfer Diogelwch Iechyd Byd-eang, a gadeiriwyd gan gyn Taoiseach Iwerddon Bertie Ahern, daeth arbenigwyr o bob cwr o’r byd ynghyd i ystyried strategaethau i sicrhau diogelwch iechyd byd-eang.

Ymysg y cynrychiolwyr o Gymru yn y digwyddiad roedd uwch swyddogion gweithredol o Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Gan sôn am y cyfarfod, dywedodd Bertie Ahern: “Rydym yn falch o ddychwelyd i Gymru ar ôl Cyfarfod Llawn Blynyddol llwyddiannus iawn y llynedd. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i hwyluso sgyrsiau a all helpu i ddiogelu’r gymuned fyd-eang rhag yr afiechydon a’r clefydau hynny sy’n peri’r risg mwyaf i iechyd. Bydd y trafodaethau yn y cyfarfod yr wythnos hon yn mynd gam o’r ffordd tuag at lywio ein hymatebion i argyfyngau iechyd yn y dyfodol.”

Dyma’r ail dro i Gymru groesawu’r Cyngor Rhyngweithio, a sefydlwyd yn 1983 fel sefydliad annibynnol sy’n dwyn ynghyd gyn benaethiaid gwladwriaethau i fynd i’r afael â materion dyngarol byd-eang. Cynhaliodd y Cyngor, y mae ei aelodau’n cynnwys cyn-lywydd yr Unol Daleithiau, Bill Clinton, ei gynhadledd flynyddol yn y lleoliad hwn yng Nghasnewydd y llynedd.

Ymysg y pynciau a drafodwyd yn y cyfarfod roedd Adolygiad Sefydliad Iechyd y Byd o Reoliadau Iechyd Rhyngwladol a chynnig i greu Fframwaith Risg Iechyd Byd-eang ar gyfer y Dyfodol. Ystyriodd y cynrychiolwyr hefyd ddeddfwriaeth Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) gyda’r bwriad o ddrafftio Cynllun Braenaru Iechyd Byd-eang ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bydd aelodau’r Cyngor yn defnyddio’r cynigion a drafodwyd yn y cyfarfod i baratoi adroddiad ar gyfer cynhadledd flynyddol y sefydliad a gynhelir yn Azerbaijan y mis nesaf.

Meddai John Wyn Owen, Cadeirydd Pwyllgor Diogelu Iechyd Llywodraeth Cymru a Thrysorydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru: “Mae’r agenda diogelu iechyd byd-eang yn esblygu’n barhaus wrth i risgiau iechyd newydd ddod i’r amlwg o’r amgylchiadau byd-eang sy’n newid. Mae paratoi’n ofalus yn hollbwysig i ddiogelu poblogaethau byd-eang rhag y risgiau hyn ac mae’r Cyngor Rhyngweithio yn flaenllaw yn y broses o lunio ein hymateb. Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r sgyrsiau hyn ac mae’n anrhydedd i ni bod y Cyngor wedi dychwelyd i Gymru unwaith eto i gynnal ei drafodaethau.”

-Y DIWEDD-

Gwybodaeth am y Cyngor Rhyngweithio

Sefydlwyd y Cyngor Rhyngweithio yn 1983 ac mae’n sefydliad rhyngwladol sydd â’r nod o fynd i’r afael â phroblemau byd-eang sy’n wynebu dynoliaeth. Wedi’i gyd-gadeirio gan y Gwir Anrhydeddus Jean Chrétien (Prif Weinidog Canada, 1993-2003) a H.E. Mr. Olusegun Obasanjo (Llywydd Nigeria, 1999-2007), mae aelodaeth y Cyngor yn cynnwys mwy na deugain o gyn benaethiaid gwladwriaethau sy’n gwirfoddoli o’u hamser i ddatblygu cynigion ar gyfer gweithredu a’u cyflwyno’n uniongyrchol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau cenedlaethol a rhyngwladol. (Http://www.interactioncouncil.org/)

 

Gwybodaeth am Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw Academi genedlaethol gyntaf Cymru sy’n hyrwyddo diwylliant o wybodaeth ac arloesedd drwy nawdd a threfnu darlithoedd, symposia, a chynadleddau. Yn wahanol i gymdeithasau dysgedig eraill y DU mae’r Gymrodoriaeth yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau – gwyddoniaeth a thechnoleg, y celfyddydau, y dyniaethau, gwyddorau cymdeithasol, busnes a gwasanaeth cyhoeddus.  Mae’r Gymdeithas yn gynrychiolydd cydnabyddedig y byd dysgedig Cymreig ac yn ffynhonnell sylwadau a chyngor awdurdodol, ysgolheigaidd a beirniadol ar faterion polisi sy’n effeithio ar Gymru.

Yn academi genedlaethol i Gymru, mae’r Gymdeithas yn ymgymryd â nifer o weithgareddau a mentrau i gyflawni’r genhadaeth hon gan gynnwys ethol cymrodyr o fri, gwobrwyo, trefnu a chynnal symposia a chyfarfodydd, ac yn fwy cyffredinol hyrwyddo bywyd deallusol cyhoeddus yng Nghymru. Yn gynyddol, mae’r Gymdeithas wedi dod yn ffynhonnell sylwadau arbenigol ar faterion pwysig sy’n berthnasol i fywyd cyhoeddus Cymru. I gydnabod hyn, mae’r Gymdeithas bellach yn cael cefnogaeth gan y rhan fwyaf o Brifysgolion Cymru ac mae wedi dechrau ymgysylltu’n gynhyrchiol â Llywodraeth Cymru a chydag academïau cenedlaethol eraill yn y DU ac Ewrop. Yn 2015, cafodd y Gymdeithas ei Siarter Frenhinol a sefydlwyd dwy wobr medal newydd yn ddiweddar, sy’n cydnabod menywod mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa (https://www.learnedsociety.wales/)

 

Gwybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn un o sefydliadau’r GIG sy’n darparu cyngor a gwasanaethau iechyd cyhoeddus annibynnol, proffesiynol i ddiogelu a gwella iechyd a lles poblogaeth Cymru.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bedair swyddogaeth statudol:

  • Darparu a rheoli amrywiaeth o wasanaethau iechyd cyhoeddus, diogelu iechyd, gwella gofal iechyd, ymgynghori ar iechyd, diogelu plant a labordai microbiolegol yn ogystal â gwasanaethau sy’n ymwneud â goruchwylio, atal a rheoli clefydau trosglwyddadwy;
  • Datblygu a chynnal trefniadau er mwyn i wybodaeth am faterion sy’n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru fod ar gael i’r cyhoedd; cynnal a chomisiynu ymchwil i faterion o’r fath yn ogystal â chyfrannu at ddarparu a datblygu hyfforddiant yn y meysydd hyn;
  • Casglu, dadansoddi a dosbarthu gwybodaeth am iechyd pobl Cymru gan gynnwys yn benodol achosion o ganser, nifer y marwolaethau a’r nifer sy’n goroesi; a pha mor gyffredin yw anomaleddau cynhenid; a
  • Darparu, rheoli, monitro, gwerthuso ac ymchwilio i gyflyrau iechyd a sgrinio materion sy’n ymwneud ag iechyd.

www.wales.nhs.uk