Dathlu Blwyddyn Gyntaf o Lwyddiant y Cynllun Grant Ymchwil

Mae cynllun grant gweithdy ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn dathlu ei flwyddyn gyntaf ar ôl ariannu 23 prosiect ymchwil sy’n amrywio o grefftau ymladd i Glefyd Parkinson’s, dolffiniaid i ffermydd cymunedol. 

Mae’r cynllun yn cymeradwyo hyd at £1000 o grantiau er mwyn galluogi ymchwilwyr i gynnal gweithdai sy’n dod â phartneriaid ynghyd ar ddechrau’r cam o gynllunio a datblygu prosiect ymchwil ar y cyd. 

Y bwriad yw bod y gweithdai hyn wedyn yn arwain at greu rhwydwaith o gynigion am gyllid ychwanegol i ddatblygu’r prosiect ymhellach. 


Dyma’r cynlluniau rydym wedi’u hariannu yn y flwyddyn gyntaf (rhestrwyd gyda’r prif gynigiwr): 

Health and Disability in Public HistoryDr Emily CockPrifysgol Caerdydd
Decolonising the University in the Welsh ContextDr Ahmed MemonPrifysgol Caerdydd
The Wales Martial Arts Researcher-Practitioner NetworkDr George JenningsPrifysgol Metropolitan Caerdydd
Raising Awareness of Speech Language and Communication Needs (SLCN) Amongst Employers When Recruiting Individuals with a Learning DisabilityDr Rebecca WardPrifysgol Abertawe
Making Active Travel Accessible for Children in WalesDr Amy MizenPrifysgol Abertawe
Welsh Writing in English and its Borders: A Digital BibliographyDr Elizabeth EdwardsPrifysgol Y Drindod Dewi Sant
‘The ground beneath our feet’: Sites of Deep Time in WalesDr Andrew WebbPrifysgol Bangor
Interrogating Social Prescribing; Swansea Community FarmDr Menna Brown Prifysgol Abertawe
Welsh & Basque Cooperation Workshop SeriesDr Igor CalzadaPrifysgol Caerdydd
Feminism in South Wales, 1974-1999: From the Women’s Liberation Movement to the National Assembly Dr Rachel Lock-LewisPrifysgol De Cymru
Mapping the Historical Fictions of Wales: an Inter-Disciplinary Approach Yr Athro Diana WallacePrifysgol De Cymru
Understanding Key Issues and Priorities for Research into Care-Experienced Children and their Families in Wales Using Linked Administrative DataLaura CowleyPrifysgol Abertawe
Darllen Dadleoli: Dadleoli Cymunedau Mewn Polisi, Hanes a ChelfyddydYr Athro Mererid HopwoodPrifysgol Aberystwyth
Care Research Interest Group (CRIG)Dr Maria Cheshire-AllenPrifysgol Abertawe
An ECR-Led Research Workshop to Critically Discuss Psychological Support for People with Parkinson’s Disease – Bringing Together Mindfulness and Acceptance Based Therapy in Wales Dr Lucy BryningPrifysgol Bangor
‘Languages Connect Us’: Developing Teachers’ and Learners’ Vocabulary Knowledge and Skills in Line with the New Curriculum for WalesEllen BristowPrifysgol Caerdydd
Developing the Wales Sexual Health Research and Evaluation Network Adam DN WilliamsPrifysgol Caerdydd
Welsh Language Communities and Dementia Dr Hanna BinksPrifysgol Aberystwyth
Climate Change Response Through Natural and Cultural Heritage Management: A Network for Wales (ClicherNet4Wales). Dr Lynda Yorke Prifysgol Bangor
Addressing the Barriers to Inclusive Cycling in WalesProfessor Sin Yi CheungPrifysgol Caerdydd
The Unknown Dolphins of the Gulf of Suez, Red Sea. Gemma VenerusoPrifysgol Bangor
Reducing the Impact of Childhood Trauma in Wales: A Co-Production ApproachYr Athro Sinead BrophyPrifysgol Abertawe
Public Legal Education in Wales: Opportunities for Welsh LawDr Huw PritchardPrifysgol Caerdydd

Dywedodd Cathy Stroemer, ein Rheolwr Rhaglen ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr: 
 
“Bu blwyddyn gyntaf y cynllun grant gweithdy yn llwyddiant ysgubol. 

“Rydym wrth ein bodd gydag ansawdd ac amrywiaeth y ceisiadau rydym wedi’u derbyn. Mae nifer o’r prosiectau wedi cyflawni canlyniadau trawiadol. 

“Efallai’n bwysicaf oll, mae sawl un o’r cynlluniau eisoes wedi defnyddio ein grant fel man cychwyn i wneud cais llwyddiannus am gyllid pellach i ddatblygu’r prosiect. 

“Dyma oedd diben ein cynllun grant ac rydym wedi gwirioni gyda’r effaith mae’n ei chael yn barod. 

“Un o nodau strategol y Gymdeithas yw creu amgylchedd sy’n cefnogi arbenigwyr heddiw ac yfory Cymru. 

“Mae llwyddiant blwyddyn gyntaf y cynllun grant yn dangos sut rydym yn cyflawni’r amcan hwnnw.” 

Bydd rownd nesaf y cynllun yn agor yn ddiweddarach yn ystod hydref 2023.