Y Gymdeithas yn Arwain Archwiliad Manwl i Astudiaethau Achos Effaith REF21

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn arwain prosiect newydd, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, CCAUC a Rhwydwaith Arloesi Cymru, i archwilio’r set ddata ar gyfer astudiaeth achos effaith Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF). Bydd hyn yn datgelu gwybodaeth newydd am gyfraniad ymchwil gan brifysgolion Cymru i les cymdeithas, diwylliant a’r economi.

Mae’r Gymdeithas Ddysgedig wedi comisiynu’r Sefydliad Polisi yn King’s College, Llundain i gynnal y dadansoddiad, gan weithio gyda Different Angles ac Electric Data Solution. Mae hyn yn adeiladu ar ddadansoddiad manwl 2016 o’r astudiaethau achos effaith a gyflwynwyd gan brifysgolion yng Nghymru i ymarfer REF 2014. Gan ddefnyddio dau ddull dadansoddol cyflenwol (cloddio testun graddfa fawr a dadansoddiad ansoddol manwl), roedd adroddiad 2016 yn adnodd tystiolaeth gwerthfawr a ddefnyddiwyd i ddeall yn well, hyrwyddo a chyfleu’r cyfraniad y mae ymchwil o Gymru wedi’i wneud i’r gymdeithas ehangach a’r economi, yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd yr adroddiad newydd yn ailadrodd y dadansoddiad hwn, gan edrych eto ar natur, buddiolwyr a mecanweithiau effaith. Bydd yn ychwanegu cymhariaeth i ganlyniadau 2014 hefyd, ac yn canolbwyntio ar flaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru, a rôl Llywodraeth Cymru y maes ymchwil Cymru.

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref, ynghyd â chyfres o ganllawiau briffio, a bydd y Gymdeithas yn cynnal nifer o gyfleoedd ymgysylltu dros y misoedd canlynol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus.