Y Gymdeithas yn Ymateb i Ymgynghoriad REF28

Mae’r effaith ar lwyth gwaith, hyfforddiant i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, a’r effaith ar gyflwyniadau Cymraeg ymhlith y materion a godwyd yn ein hymateb i ymgynghoriad diweddar gan UKRI ar y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2028.

Rydym yn cefnogi’n gryf y dyheadau cyffredinol a fynegwyd yn y ddogfen ynghylch diwylliant ymchwil, amrywiaeth a chynhwysiant, ond rydym yn parhau i bryderu y gallai’r pwysau a’r grymoedd y mae sefydliadau AU yn eu teimlo yn ystod y broses Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil arwain at ganlyniadau aneglur, anfwriadol. Rydym yn annog pwyll wrth feddwl y gellir ac y dylid defnyddio proses Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil i greu’r holl newidiadau a ddymunir mewn diwylliant ymchwil, cynwysoldeb ac amrywiaeth.

Canolbwyntiodd ein sylwadau ar y canlynol:

  • llwyth gwaith gweinyddol;
  • effaith bosibl ar ymchwilwyr unigol, yn enwedig y rhai â nodweddion gwarchodedig neu gan grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol
  • pwysau y gellid ei wynebu gan academyddion sydd yn cael eu cyflogi ar gontractau addysgu yn unig;
  • hyfforddiant a chefnogaeth i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig;
  • trothwy isel ar gyfer dangos cyswllt sylweddol unigolyn â sefydliad;
  • perygl y bydd llai o allbynnau o Gymru yn cael eu cynhyrchu neu eu dewis i’w cyflwyno.

Gallwch ddarllen ein hymateb llawn i’r ymgynghoriad yma.