Sylw i ymchwil o Gymru mewn cylchgrawn gwyddonol blaenllaw

Cafwyd hwb gwerthfawr i ymchwil yng Nghymru yr wythnos hon gyda chyhoeddi erthygl nodwedd yn un o brif gylchgronau gwyddonol y byd Science.

Mae’r erthygl mynediad agored, a gyhoeddir yn Science ddydd Gwener 14 Hydref, yn cynnwys proffil unigryw ac annibynnol o dirwedd wyddonol Cymru ac yn tynnu sylw at rywfaint o’r ymchwil arloesol sydd gan Gymru i’w gynnig ar draws y meysydd gwyddonol. Yn debyg i wledydd eraill sy’n gweld twf gwybodaeth fel elfen bwysig yn eu heconomïau, mae Cymru wedi creu agenda gwyddoniaeth sy’n anelu nid yn unig at ehangu gwyddoniaeth academaidd, ond hefyd at drosi gwyddoniaeth a thechnoleg yn gymwysiadau sy’n bwydo twf economaidd.

Mae’r erthygl yn Science yn bwysig gan ei bod yn tynnu sylw at sector gwyddoniaeth y genedl. Science yw un o brif gylchgronau gwyddonol y byd, gyda 570,400 o ddarllenwyr bob wythnos a safle ar-lein sy’n derbyn 5.6 miliwn o ymweliadau ar draws y byd.

Fel arfer bydd Science yn dewis tri neu bedwar ardal ddaearyddol benodol bob blwyddyn, a dyma’r ail dro iddo ganolbwyntio ar Gymru. Yn 2013, rhoddodd erthygl flaenorol sylw i strategaeth a gweledigaeth Llywodraeth Cymru i wneud gwyddoniaeth yn ganolbwynt economi Cymru drwy greu swyddi ymchwil a busnesau newydd.

 (Gweler https://www.sciencemag.org/careers/features/2013/04/science-wales)

Dywedodd yr Athro Peter Halligan, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae’r erthygl yn Science yn rhoi sylw byd-eang amserol i wireddu strategaeth feiddgar a ddechreuwyd yn 2012 i osod ymchwil a’r agenda gwyddonol wrth galon yr hyn sy’n gyrru twf economaidd y genedl.”

Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC:

Mae CCAUC wedi ymrwymo i gefnogi sail ymchwil o ansawdd uchel yng Nghymru. Unwaith eto mae erthygl Science yn taflu golau ar wyddoniaeth yng Nghymru a gallu prifysgolion i gyflawni’n effeithiol. Mae ymchwilwyr yn cael eu denu gan y cyfleoedd unigryw a geir yng Nghymru ac yn cyfrannu at sail ymchwil lwyddiannus a chynaliadwy a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n dyfodol ni i gyd.”

Dywedodd yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru:

“Mae’n destun balchder enfawr fod y camau breision sydd wedi’u gwneud dros y blynyddoedd diwethaf i adeiladu gallu gwyddonol cryf yng Nghymru yn cael eu cydnabod yn yr erthygl hon yn Science. Gyda rhaglen Sêr Cymru wrth galon agenda gwyddoniaeth Cymru, dylai’r blynyddoedd nesaf weld hwb mewn cyllid, cyhoeddiadau a recriwtio fydd yn eu tro yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi, ac yn y pen draw, pob agwedd o gymdeithas Cymru.”

Gweler http://www.sciencemag.org/careers/features/2016/10/wales-wants-more-scientists

 

Nodiadau i Olygyddion

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Athro Peter W Halligan 

Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Elusen addysgol, Cymru-gyfan, ar draws yr holl ddisgyblaethau yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n gweithredu’n annibynnol ac yn sicrhau budd i’r cyhoedd gan gynnwys cyngor ysgolheigaidd arbenigol ar amrywiaeth o faterion polisi cyhoeddus yn ymwneud â gwyddoniaeth, peirianneg, meddygaeth, y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol. Fel academi genedlaethol gyntaf Cymru, daw’r Gymdeithas â’r ysgolheigion mwyaf llwyddiannus a thalentog sy’n gysylltiedig â Chymru at ei gilydd, at ddiben a budd cyffredin sef hyrwyddo rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd ar draws Cymru. Sefydlwyd y Gymdeithas yn 2010 ac erbyn hyn gall fanteisio ar gryfderau sylweddol dros 400 o Gymrodyr nodedig yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Corff a noddir gan Lywodraeth Cymru yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy’n cefnogi addysgu ac ymchwil ym mhrifysgolion Cymru. Mae CCAUC yn ymrwymo i sicrhau sail ymchwil o ansawdd uchel yng Nghymru, gan ddyrannu cyllid i gefnogi rhagoriaeth ymchwil cynaliadwy, a ddynodir yn asesiad y DU o ansawdd ymchwil. CCAUC yw’r cyllidwr ymchwil prifysgol mwyaf yng Nghymru. Mae hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i gyllido a gweithredu rhaglen Sêr Cymru fydd yn sicrhau buddsoddiad ychwanegol ar gyfer ymchwil yng Nghymru.