“Nid ar Gyfer Academyddion yn Unig y mae Academi Ifanc y DU”: Ail Alwad am Geisiadau Ddechrau

Wrth i’r ail rownd o geisiadau agor ar gyfer aelodaeth i Academi Ifanc y DU, mae aelodau’r grŵp gweithredol yn galw ar arweinwyr newydd o amrediad eang o sectorau i ymgeisio.

Mae Academi Ifanc y DU yn rhwydwaith rhyngddisgyblaethol o weithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr gyrfa gynnar a sefydlwyd i helpu i fynd i’r afael â materion cymdeithasol a hyrwyddo newid ystyrlon. Mae’r academi’n darparu fforwm lle gall arweinwyr newydd o sectorau amrywiol gyfnewid syniadau, rhannu arbenigedd a chymryd rhan mewn trafodaethau polisi lleol a byd-eang.

Bydd cyfle i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithio ochr yn ochr ag aelodau presennol i lywio blynyddoedd cyntaf Academi Ifanc y DU, o ddatblygu nodau strategol i gydlynu gweithgareddau. Mae hyn yn cynnwys sefydlu rhaglenni gwaith a mentrau gyda’r nod o fynd i’r afael â heriau’n seiliedig ar feysydd sy’n bwysig iddyn nhw.

Dywedodd Michael Berthaume, peiriannydd mecanyddol ac anthropolegydd yn King’s College Llundain, ac aelod o Grŵp Gweithredol Academi Ifanc y DU:

“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn rhan o Academi Ifanc y DU. Rydym yn dal wrthi’n sefydlu ein sylfeini gan mai ein blwyddyn gyntaf yn unig yw hon. Bydd y sylfeini hyn, fodd bynnag, gryfaf os cânt eu hadeiladu gan leisiau o amrywiaeth o ddisgyblaethau – o economegwyr a moesegwyr, i weithwyr proffesiynol yn y sectorau cyfreithiol, elusennol a’r celfyddydau. Fel anthrobeiriannydd sy’n gweithio i ddod ag anthropoleg a pheirianneg fecanyddol ynghyd, drwy edrych ar broblemau mewn ffordd gyfannol, rwy’n credu’n gryf ein bod yn galluogi iddynt gael eu datrys mewn ffyrdd newydd.” 

Dywedodd Linda Oyama, microbiolegydd a darlithydd ym Mhrifysgol Queen’s Belfast, ac aelod o Grŵp Gweithredol Academi Ifanc y DU:

”Fel rhan o Academi Ifanc y DU, rwy’n croesawu’r cyfle i newid ac effeithio ar fywydau pobl drwy fy mywyd, fy ngwaith a gwyddoniaeth. Ond mae newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth ac ymwrthedd gwrth-ficrobaidd, ymysg eraill, yn faterion byd-eang enfawr sy’n mynd y tu hwnt i wyddoniaeth – y tu hwnt i bob disgyblaeth broffesiynol, a dweud y gwir.

“Dyna pam mae’r academi’n fenter mor wych. Nid ar gyfer academyddion yn unig y mae – yn hytrach mae’n lle i ddod ynghyd a thrafod gyda chymheiriaid o wahanol gefndiroedd proffesiynol gyda phob un yn cyflwyno amrywiaeth o syniadau, arbenigeddau a phrofiadau personol. Mae’r deialog traws-sector yn hanfodol os ydym am gael effaith wirioneddol er lles y gymdeithas gyfan.”

Mae’r rownd hon o geisiadau i Academi Ifanc y DU yn cau ddydd Mawrth 3 Hydref 2023 am 3pm (BST). Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau eu swyddogaethau ar 1 Ebrill 2024, ac mae’r aelodaeth yn rhedeg am bum mlynedd.

Mae Academi Ifanc y DU wedi’i sefydlu fel cydweithrediad rhyngddisgyblaethol gyda’r Academi Gwyddorau Meddygol, yr Academi Brydeinig, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Peirianneg, yr Academi Wyddelig Frenhinol, Cymdeithas Frenhinol Caeredin, a’r Gymdeithas Frenhinol. Mae’n ymuno â’r fenter fyd-eang o Academïau Ifanc, ac Academi Ifanc y DU yw’r 50fed i ymuno â’r mudiad Academïau Ifanc. Ffurfiwyd y garfan gyntaf o 67 aelod ym mis Ionawr 2023 ac mae’n dwyn ynghyd ymchwilwyr, arloeswyr, clinigwyr, gweithwyr proffesiynol ac entrepreneuriaid sydd wedi cyfrannu’n sylweddol at eu maes.