Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022: Galwad am Bapurau

“Cymdeithas sifil a chymryd rhan: materion cydraddoldeb, hunaniaeth a chydlyniant mewn tirwedd gymdeithasol sy’n newid”

Mae WISERD| yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau cyfoes byd-eang wrth lunio cymdeithas sifil a chymryd rhan mewn cyfnod ar ôl covid, ac yn croesawu cynigion ar gyfer cyflwyniadau papur, gweithdai/sesiynau rhyngweithiol, posteri/arddangosiadau, neu seminarau mewn unrhyw ddisgyblaeth sy’n ymgysylltu â’r gwyddorau cymdeithasol.

Dyma enghreifftiau o’r meysydd pwnc sydd yn cael eu cynnwys:   

  • Cymdeithas sifil, cymryd rhan a llywodraethu 
  • Cymryd rhan, diwylliant a hunaniaeth iaith 
  • Tlodi a chyfiawnder cymdeithasol 
  • Cysylltiadau byd-eang Cymru: cymdeithas sifil a chymryd rhan mewn cyd-destun 
  • Cymryd rhan a chymdeithas sifil drwy gwrs bywyd 
  • Cymryd rhan mewn addysg 
  • Cymryd rhan yn y farchnad lafur 
  • Gweithio gyda chymunedau 
  • Ymchwil am gymryd rhan ym meysydd tai, iechyd a gofal cymdeithasol 
  • Ymchwil am actifiaeth a chymdeithas sifil 
  • Ymgymryd ag ymchwil am gymryd rhan a gweithredu 

Mae dyddiad cau’r alwad am bapurau ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022 wedi’i ymestyn i ddydd Gwener, 11 Chwefror

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Ddydd Mercher 6 Gorffennaf a dydd Iau 7 Gorffennaf 2022. Gallwch gael rhagor o fanylion yma.