Y Gymdeithas yn Croesawu’r Penderfyniad i Ailymuno â Horizon Ewrop

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd y DU yn ailymuno â chynllun €95.5bn Horizon Ewrop sy’n cyllido ymchwil ym maes gwyddoniaeth.

Bydd modd i ymchwilwyr o Brydain ymgeisio am grantiau a chyflwyno ceisiadau i fod yn rhan o brosiectau o dan faner Horizon o heddiw ymlaen.

“Dyma newydd rhagorol, “ meddai’r athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas.

“Bydd y cyfle i weithio’n ddirwystr gyda’n cydweithwyr Ewropeaidd eto yn hwb enfawr i wyddoniaeth yng Nghymru ac yn y DU.

Roedd y Gymdeithas yn glir ynghylch ei safbwynt ar hyn pan ddaeth yr aelodaeth o Horizon Ewrop i ben ddwy flynedd yn ôl. Yn ogystal â’r golled o ran cyllid, roeddem yn pryderu y byddai’r cydweithio’n gwanio, y byddem yn colli dylanwad ac am y bygythiad y byddai Cymru’n colli ymchwilwyr dawnus.

“Rydym yn falch fod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar y dadleuon a leisiwyd gennym ni a llawer iawn o bobl eraill.”