Yr Athro Alan Shore yn Ennill y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Llongyfarchiadau calonnog i’r Athro Alan Shore CCDdC ar ennill Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, 2023.  Rhoddir y fedal i gydnabod a dathlu cyfraniad unigolyn i faes gwyddoniaeth a thechnoleg drwy’r Gymraeg.  Mae Alan yn ŵr amryddawn, gyda Chymru a’r Gymraeg yn ran annatod o’i weithgaredd.  Mathemategydd yn ei hanfod, sydd wedi cymhwyso ei ddoniau i ddatblygiadau ym maes peirianneg electronig.  Mae cyfraniad Alan i faes gwyddoniaeth a thechnoleg drwy’r Gymraeg yn eithriadol, a hynny dros gyfnod estynedig.  Mae wedi ymestyn y beirianneg i’r cenedlaethau iau ac i’r gymdeithas yn gyffredinol, mae wedi annog a hwyluso, ac wedi dangos pa mor naturiol yw ymdrin â’r maes drwy’r Gymraeg.

Mae Alan yn hanu o Dredegar Newydd, Cwm Rhymni.  Cafodd ei addysg yn Ysgol Lewis Pengam ac yna astudio Mathemateg yng Ngholeg Iesu, Prifysgol Rhydychen.  Dychwelodd i Gymru ar gyfer ei astudiaethau ôl-raddedig, ac yn ystod y cyfnod hwn yng Nghaerdydd dechreuodd ddysgu’r Gymraeg.

Cafodd ei benodi i swyddi academaidd ym mhrifysgolion Lerpwl a Chaerfaddon, ond parhaodd i fyw yng Nghymru a chyfrannu at weithgareddau Cymraeg.  Yn 1995 daeth y cyfle i ddychwelyd i weithio yng Nghymru pan gafodd ei benodi yn Athro mewn Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol Bangor, lle y bu’n arwain ac yn datblygu gwaith ar Ffotoneg ac Optoelectroneg.  ‘Does dim dwywaith fod Alan yn fathemategydd a pheiriannydd o’r radd flaenaf sydd wedi cyhoeddi, cyflwyno ac hwyluso ymchwil yn eang a led-led y byd.  Ond yn ychwanegol at hyn, ac yn benodol i achlysur y fedal, mae wedi cyfrannu’n eithriadol i ddatblygu Peirianneg yng Nghymru a thrwy’r Gymraeg.  Dyma faes nad sydd yn draddodiadol wedi bod yn flaenllaw drwy’r Gymraeg, a’r cam cynaf yw meithrin ac annog cymdeithas o wyddonwyr yn Nghymru i osod sylfaen i ddatblygu’r wyddor yn Gymraeg. Gwelir y thema o hyrwyddo ac o annog ei gydweithwyr a’r genhedlaeth iau yn gyson yn ei gyfraniadau.

Mae ei gyfraniadau yn niferus, yn cynnwys i Academi Ffotoneg Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  Mae’n Gymrawd gweithgar a blaenllaw o Gymdeithas Ddysgedig Cymru gan sicrhau lle’r Gymraeg yn y gweithgaredd; mae ar Gyngor y Gymdeithas a bu’n Ysgrifennydd Cyffredinol.  Ef sy’n trefnu darlith y Gymdeithas Ddysgedig yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn flynyddol, gyda’r ddarlith yn un ar wyddoniaeth bob yn ail flwyddyn.

Cyflwynwyd y Fedal i Alan ar ran yr Eisteddfod gan yr Athro Andrew Evans CCDdC, Prifysgol Aberystwyth mewn seremoni a gynhaliwyd yn Sfferen Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod ac yna ar brif lwyfan yr Eisteddfod dan arweinyddiaeth fedrus Elin Rhys CCDdC, Telesgop.  Cynrychiolwyd yr Eisteddfod yn y Sfferen gan Liz Saville Roberts AS, Llywydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ac ar y prif lwyfan gan Ashok Ahir, Llywydd Llys yr Eisteddfod.  Yn y pentref rhoddodd Dr Bryn Hughes Parry ragarweiniad ar ran pwyllgor lleol Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod, cyflwynodd yr Athro Eleri Pryse CCDdC, Prifysgol Aberystwyth deyrnged i ddathlu cyfraniad arbennig Alan i beirianneg drwy’r Gymraeg, rhoddodd yr Athro Trystan Watson, Prifysgol Abertawe gefndir creu’r fedal, a chafwyd eitemau cerddorol gan barti canu Ysgol Glan y Môr, Pwllheli gyda Mr Iwan Wyn Williams yn cyfeilio a gan Gwen Elin, Elin Angharad a Non Gwenllian.  Ymatebodd Alan, gan gydnabod gwaith penigamp Tanya Jones, cydlynydd Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod.  Ar y prif lwyfan cyflwynodd y Prifardd Guto Dafydd ei gerdd i gyfarch Alan ar ennill y fedal.