Dr Jennifer Edwards

Dr Jennifer Edwards, Darlithydd mewn Cemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caerdydd, yw enillydd Medal Dillwyn 2020 Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth), a ddyfernir i gydnabod rhagoriaeth ymchwil gyrfa gynnar.

Mae Dr Edwards yn cynnal ymchwil i gatalysis a datblygu deunyddiau i’w defnyddio mewn amrywiol gymwysiadau, o lanweithio dŵr i lanhau prosesau diwydiannol graddfa fawr.

Mae ei gwaith wedi ennill enw da rhyngwladol i Dr Edwards ym maes catalysis a gwyddoniaeth deunyddiau; mae wedi cyflwyno mewn nifer o gynadleddau yn y DU a thramor ac wedi derbyn dwy wobr ryngwladol am ei hymchwil mewn catalysis heterogenaidd. Mae’n cydweithio’n agos gyda diwydiant ac mae ei hymchwil eisoes yn golygu bod ganddi bum patent.