Archive for Awst, 2026

Dr Luned Badder yn ennill Cystadleuaeth Traethawd Tri Munud yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae Dr Luned Badder o Brifysgol Caerdydd wedi ennill y Gystadleuaeth Traethawd Tri Munud eleni, a gynhaliwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Teitl ei chyflwyniad oedd ‘Hyfforddi feirysau i gludo cemotherapi i ganser y pancreas’.

Roedd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru bresenoldeb cryf yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn Y Garreg Las, gyda Chymrodyr yn arwain darlithoedd a digwyddiadau drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys ein Darlith Flynyddol yn yr Eisteddfod a’r Gystadleuaeth Traethawd Tri Munud.

Mae academi genedlaethol Cymru ar gyfer y celfyddydau a’r gwyddorau a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr)* wedi adnewyddu eu hymrwymiad i gydweithio i gefnogi ymchwil, arloesedd a chydweithredu yng Nghymru ymhellach.