Ynghylch y Rhwydwaith
Rydym wedi lansio rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar i gyfarfod, dysgu a chydweithio. Gallwch gofrestru yn rhad ac am ddim, ac mae’r rhwydwaith ar agor i bawb.
Ein nod yw creu rhwydwaith cenedlaethol sy’n cwmpasu’r holl ddisgyblaethau a sefydliadau academaidd yng Nghymru, yn ogystal ag ymchwilwyr yn y trydydd sector, y Llywodraeth a diwydiant. Anelir y rhwydwaith hwn at unrhyw un sy’n cychwyn ar yrfa ym maes ymchwil neu’n cychwyn gweithio gydag ymchwilwyr.
Trwy gyfrwng y rhwydwaith, byddwn ni’n eich cynorthwyo chi i wneud y canlynol:
- Cyfranogi mewn syniadau creadigol ac ysbrydolgar sy’n deillio o’r ymchwil a’r arferion diweddaraf
- Cael profiadau a datblygu sgiliau a wnaiff eich cynorthwyo â’ch datblygiad a’ch proffil proffesiynol
- Datblygu rhwydweithiau cryf a chydweithredu ar draws disgyblaethau a sectorau academaidd
- Ymateb ar y cyd i heriau a chyfleoedd pwysig i Gymru
Ar gyfer y sawl sydd yn y sector AB, bydd y rhwydwaith yn cyfrannu at ymrwymiadau ymchwilwyr, eu rheolwyr a’u sefydliadau fel rhan o’r Concordat Datblygu Ymchwilwyr.
Dr. Barbara Ibinarriaga Soltero
Swyddog Datblygu Rhwydwaith
Ymunodd Barbara â ni ym mis Mehefin 2021, a’i gwaith yw datblygu gweithgareddau a chyrhaeddiad rhwydwaith cenedlaethol y Gymdeithas ar gyfer Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar, a sefydlwyd yn nhymor yr haf 2020.
Mae Barbara’n gweithio’n rhan-amser i’r Gymdeithas ar hyn o bryd.