“Alt-Ac” Gwebinar YGC: ‘Careers for Academics Outside Academia’    

Bydd ein gweminar Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar nesaf, ‘Alt-Ac Careers’, yn archwilio sut y gall academyddion ddefnyddio eu sgiliau a’u hymchwil y tu allan i’r byd academaidd i ddatblygu gyrfaoedd cynhyrchiol mewn diwydiant neu yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Mae aelodau’r panel yn cynnwys:

  • Dr Robert Deaves, Uwch Brif Beiriannydd, Dyson Ltd ac RAEng Athro Gwadd Pensaernïaeth Systemau Robotig, Coleg Imperial Llundain.
  • Dr Maria Oliver, Prif Wyddonydd yn InBio.
  • Dr Adrian Walters, Arbenigwyr Peirianwyr Deunyddiau ym Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddwr Rhaglen SUNRISE.
  • Dr Angharad Watson, Rheolwr Trosi Ymchwil, Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi, Prifysgol Caerdydd.

Bydd y sesiwn yn cael ei chadeirio gan:

  • Dr Barbara Ibinarriaga Soltero, Swyddog Rhaglen, Datblygu Ymchwilwyr, Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn uniaith Saesneg