Gweithgareddau Astudiaethau Cymreig

Nod y fenter yw crynhoi cyrff a rhwydweithiau sydd eisoes yn bodoli ac sy’n rhannu cred gref y gallai datblygu Astudiaethau Cymreig yn fywiog ac yn llwyddiannus gynnig llawer i Gymru, ei phobl a chyflawni nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Fodd bynnag, bydd prosiectau fel hyn yn cymryd amser, cyfranogiad gan Gymrodyr a chydweithio gyda phartneriaid perthnasol, ond y nodau tymor byr i ganolig yw:

  • Darganfod, mapio a hyrwyddo rhai o’r ffrydiau gweithgaredd gwahanol cyfredol sydd eisoes yn dod dan faes cynhwysol ‘Astudiaethau Cymreig’
  • Cydweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i gyflawni diben cyffredin, sef creu adnoddau newydd i alluogi profiad dysgu mwy perthnasol a chysylltiedig sy’n ysbrydoli ymdeimlad cryfach o hunaniaeth genedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Yn codi o astudiaethau o Gymru, hyrwyddo a chyfleu delwedd a naratif hyderus am Gymru, oddi mewn a’r tu allan i’r wlad
  • Gweithio at ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer Astudiaethau Cymreig, gan gynnwys gwreiddio hyn yn y cwricwlwm newydd i Gymru
  • Sicrhau adnoddau digonol i gyflenwi’r nodau uchod, a sicrhau cynaladwyedd y prosiect wrth symud ymlaen