Beth sy’n gwneud cais da?

Mae’r canllawiau generig canlynol wedi’u bwriadu er budd darpar ymgeiswyr i raglen ariannu ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Gymdeithas yn gresynu nad yw’n gallu cynnig adborth unigol i ymgeiswyr aflwyddiannus ar hyn o bryd.

SICRHAU BOD Y CAIS A’R YMGEISYDD ARWEINIOL YN BODLONI’R MEINI PRAWF

Mae’n debygol y bydd hwn yn gylch ariannu cystadleuol sydd o bosib, gyda gormod wedi tanysgrifio ar ei gyfer. Rydym eisiau cefnogi’r gwaith o ddatblygu potensial ymchwil yng Nghymru ac er mwyn cael eu hystyried, mae’n rhaid i geisiadau fodloni’r meini prawf a nodwyd. Os ydych yn creu digwyddiad i rannu ymchwil wedi’i gwblhau neu ymchwil uwch, nid yw’n gymwys o dan y cynllun hwn. I gael gwybodaeth am grantiau cymorth ar gyfer digwyddiadau’r Gymdeithas, cliciwch yma.

BOD YN GLIR YNGHYLCH PWRPAS Y CAIS A BETH FYDD Y PROSIECT YN MYND I’R AFAEL AG EF

Mae ceisiadau da yn egluro beth sy’n cael ei gynnig, sut y caiff ei wneud, pam ei bod yn bwysig ei wneud, a’i wneud yn awr. Mae’n bwysig bod pwrpas y cais yn glir i’r rheini sydd ddim yn arbenigwyr gwybodus ac i’r rheini sydd ag arbenigedd yn eich cais. Nid ydym yn chwilio am naratifau hir, ond am grynodebau cryno

NODI CANLYNIADAU DISGWYLIEDIG EICH YMCHWIL ARFAETHEDIG A’R LLWYBR AT Y CANLYNIADAU HYNNY

Rydym yn cydnabod nad yw bob amser yn bosibl rhoi canlyniadau manwl pan nad yw’r ymchwil ei hun wedi’i chynnal a’i chwblhau eto. Dylid cymryd gofal, serch hynny, i nodi’ch canlyniadau bwriadedig, sut bydych chi’n bwriadu eu gwireddu (y llwybrau at effaith), a’r cynulleidfaoedd a’r buddiolwyr posib

BOD YN GLIR AM Y COSTAU A RHOI CYFIAWNHAD BYR

Mae elfen o hyblygrwydd o fewn y cyllid, ond mae angen i ni weld gwerth am arian a defnydd priodol a rhesymol o adnoddau.