Cyfres Black Lives Matter

Cyfres sy’n trafod materion sy’n gysylltiedig â’r protestiadau a’r trafodaethau a ysgogwyd gan y mudiad ‘Black Lives Matter’.

Mae’r gyfres yn tynnu ar brofiad ac ymchwil o Gymru.

Paul Robeson: Ystyr ei Berthynas â Chymru

Mae’r Athro Daniel Williams FLSW yn archwilio cysylltiadau Paul Robeson â Chymru a’r gwersi y gallwn eu dysgu o’r berthynas honno wrth inni ymdrechu i gael Cymru fwy goddefgar.

‘Language, Inclusivity and the Stories We Tell’

Mae Dr Nelson Mlambo, Prifysgol Namibia, a’r Athro Loredana Polezzi FLSW yn trafod pwysigrwydd gwrando ar straeon y mae eraill yn eu hadrodd wrthym.

Mae Dr Mlambo a’r Athro Polezzi yn trafod y rhaglen Trawswladoli Ieithoedd Modern a Phrosiect Phoenix a’r cydweithio rhwng Prifysgolion Namibia a Chaerdydd.

Ymateb Barddoniaeth Gymraeg i Fasnach mewn Caethweision yr Atlantig

Barddoniaeth oedd un o’r cyfryngau cynharaf a ddefnyddiwyd yn Lloegr yn ail hanner y ddeunawfed ganrif i gynhyrfu’r farn gyhoeddus yn erbyn y fasnach mewn caethion. A bu barddoniaeth Gymraeg hithau yn bwysig yn y gwaith o hybu’r ymwybyddiaeth o erchyllterau caethwasiaeth a’r gwrthwynebiad iddi ymhlith y Cymry, a hynny eto o boptu i’r Iwerydd.

Mae’r ddwy erthygl yma, gan yr Athro E. Wyn James FLSW, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn archwilio sut y gadawodd beirdd Cymru eu hôl ar fudiad y diddymwyr.


Hamed Amiri: The Boy with Two Hearts

Hamed Amiri yn trafod hanes taith ei deulu o Afghanistan i dde Cymru.

Welsh Plains: Cymru a’i Gorffennol yn y Fasnach Caethweision

Dr Chris Evans yn trafod rhan Cymru ym Masnach Caethweision yr Iwerydd.