Cod Ymddygiad

Cwmpas

Mae’r ddogfen hon yn nodi ein disgwyliadau gan Gymrodyr mewn tair adran, yn dibynnu ar lefel cyfrifoldeb Cymrawd tuag at y Gymdeithas:

  • Disgwyliadau gan yr holl Gymrodyr
  • Rhwymedigaethau ychwanegol aelodau’r Cyngor, aelodau pwyllgor, a Chymrodyr a awdurdodwyd i gynrychioli’r Gymdeithas
  • Rhwymedigaethau pellach aelodau’r Cyngor

Torri’r Cod Ymddygiad

Os ceir cwyn am ymddygiad Cymrawd, neu os yw’r Cyngor yn ystyried bod ymddygiad aelod yn torri’r Cod hwn neu’n “niweidio cymeriad, buddiannau neu enw da’r Gymdeithas” (Rheoliad 14), dilynir y Polisi a’r Weithdrefn ar gyfer Ymdrin â Chwynion neu Honiadau o Gamymddwyn yn erbyn Cymrodyr. Mae hyn yn ei gwneud hi’n bosibl defnyddio proses ffurfiol neu anffurfiol i ymdrin â chwynion neu honiadau o’r fath, yn dibynnu ar eu natur.

Ceir hyd i’r Polisi a’r Weithdrefn ar dudalen 115.

Amrywiaeth

Mae gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru ymrwymiad cryf i amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant. Rydym yn ceisio bod yn Gymdeithas amrywiol ac adlewyrchu natur amrywiol cymdeithas. Mae ein gwahaniaethau yn ein cyfoethogi.

Ni wnawn oddef rhywiaeth, hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath.

Dylai cymrodyr geisio sicrhau cyfranogiad gan grwpiau tangynrychioledig, a gwerthfawrogi a dathlu cyfraniadau pawb.

Disgwyliadau gan yr holl Gymrodyr

Mae gan bob aelod ddyletswydd i:

  • gadw at ddarpariaeth Siarter ac Is-ddeddfau Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac unrhyw reoliadau a wnaed oddi tanynt,
  • ymddwyn yn anrhydeddus a chydag uniondeb
  • Parchu eraill bob amser, a chyflawni dyletswyddau’n deg gan gyfyngu ar unrhyw ragfarn
  • cynnal enw da a budd Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Etholir cymrodyr i’r Gymdeithas am eu hysgolheictod, eu hymchwil a chyfraniadau eraill rhagorol at ddysgu. Disgwylir iddynt felly ddilyn rheolau a rheoliadau’r Gymdeithas, a chynnal y safonau uchaf o ymddygiad ysgolheigaidd a phroffesiynol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, ymatal rhag:

  • Camddefnyddio’u swydd fel Swyddog etholedig, aelod o’r Cyngor neu aelod pwyllgor
  • Ymyrryd yn y broses briodol ar gyfer gweithdrefnau enwebu ac ethol Cymrodyr y Gymdeithas, trefnu digwyddiadau, datblygu gwaith polisi, dyfarnu medalau a gweithgareddau eraill.
  • Methu datgan achos perthnasol o wrthdaro buddiannau mewn unrhyw waith a gyflawnir ganddynt ar ran y Gymdeithas
  • Achosi difrod neu golled i eiddo neu adnoddau’r Gymdeithas.
  • Gwneud datganiad cyhoeddus, heb awdurdod, gan awgrymu eu bod yn gwneud hynny yn enw’r Gymdeithas.
  • Camymddygiad ym maes ymchwil, fel y’i diffiniwyd gan Swyddfa Hygrededd Ymchwil y DU, neu gan sefydliad ymchwil Cymrawd.
  • Cyhoeddi neu ddarlledu deunyddiau, neu gynnig cyngor neu farn arbenigol sy’n anghyson â gwerthoedd ysgolheigaidd, neu sydd fel arall yn denu sylw negyddol i’r Gymdeithas.
  • Aflonyddu, bwlio neu erlid Cymrawd arall, aelod o staff neu unrhyw un arall
  • Gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un ar y nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010 (oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol)
  • Anwedduster neu dwyll ariannol

Rhwymedigaethau ychwanegol aelodau’r Cyngor, aelodau pwyllgor, a Chymrodyr a awdurdodwyd i gynrychioli’r Gymdeithas

Sefydlwyd egwyddorion Nolan ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus neu sy’n aelodau o gyrff cyhoeddus. Nid corff cyhoeddus yw’r Gymdeithas yn hyn o beth, ond ymddiriedir arian cyhoeddus iddo ac mae’n gweithredu er budd y cyhoedd, ac yn ymdrechu i weithredu’n unol â’r safonau uchaf.

Mae’n rhaid i unrhyw Gymrodyr sy’n aelodau o Gyngor neu bwyllgorau’r Gymdeithas, neu a awdurdodir i gynrychioli’r Gymdeithas mewn unrhyw ffordd, gadw at yr egwyddorion canlynol yn ychwanegol at y disgwyliadau a nodir yn adran 3:

  • Anhunanoldeb: Dylai cymrodyr wneud penderfyniadau i hybu buddiannau’r Gymdeithas yn unig, ac ni ddylent wneud hynny i greu buddion ariannol neu faterol eraill iddynt hwy eu hunain, eu teuluoedd neu eu cyfeillion.
  • Uniondeb: Rhaid i gymrodyr beidio â’u gosod eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth ariannol, nac unrhyw rwymedigaeth arall i unigolion neu sefydliad allanol a allai ddylanwadu arnynt wrth gyflawni dyletswyddau’r Gymdeithas
  • Gwrthrychedd: Rhaid i gymrodyr wneud dewisiadau ar sail teilyngdod wrth benodi, dyfarnu contractau neu argymell unigolion i dderbyn gwobrwyon a buddion.
  • Atebolrwydd: Rhaid i gymrodyr fod yn atebol am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd i’r Gymdeithas ac ymostwng i bob archwiliad sy’n briodol ar gyfer eu swydd/rôl.
  • Bod yn Agored: yn amodol ar y ddyletswydd i gadw cyfrinachedd, dylai Cymrodyr fod mor agored ag sy’n bosibl ynghylch yr holl benderfyniadau a’r camau y maent yn eu cymryd
  • Gonestrwydd: Dylai cymrodyr ddatgan unrhyw fuddiant preifat sy’n ymwneud â’u dyletswyddau yn y Gymdeithas, a dylent gymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro sy’n codi mewn modd sy’n diogelu buddiannau’r Gymdeithas
  • Arweinyddiaeth: Dylai cymrodyr hyrwyddo a chefnogi’r egwyddorion hyn drwy arwain a gosod esiampl

Rhwymedigaethau pellach aelodau’r Cyngor

Aelodau’r Cyngor yw ymddiriedolwyr y Gymdeithas. Mae cyfrifoldebau ffurfiol y Cyngor wedi’u nodi yn yr Is-ddeddfau a’r Rheoliadau, a’r pryderon craidd yw nodau ac amcanion strategol y Gymdeithas a sicrhau ei hiechyd ariannol. Dylai Aelodau gyfeirio at:

  • Is-ddeddf 3 a Rheoliad 3.1, sy’n pennu cyfansoddiad y Cyngor
  • Is-ddeddf 4 a Rheoliad 8.1, sy’n pennu deiliadaeth Aelodau’r Cyngor
  • Is-ddeddf 5, sy’n nodi rolau a chyfrifoldebau Aelodau’r Cyngor
  • Is-ddeddf 7 a Rheoliad 16, sy’n nodi’r weithdrefn ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor.

Mae gan Aelodau’r Cyngor y rhwymedigaethau a ganlyn yn ychwanegol at y rhai yn adrannau 3 a 4:

  1. Yn eu hymwneud â’r Gymdeithas ac ar ei rhan, disgwylir i Aelodau’r Cyngor ddangos teyrngarwch a didwylledd, gan arfer medr a gofal fel petaent yn ymdrin â’u materion eu hunain. Nid yw’r Cyngor ei hun yn cynrychioli unrhyw grwpiau buddiant penodol ond dylai ymroi i lywodraethu’r Gymdeithas yn briodol, gan gyflawni ei gyfrifoldeb i’w etholaeth o randdeiliaid: Cymrodyr, staff, a’r gymuned leol a chenedlaethol.
  2. Rhaid i Aelodau’r Cyngor weithredu o fewn y pwerau a roddwyd iddynt drwy Is-ddeddfau a Rheoliadau’r Gymdeithas. Os byddant yn gweithredu y tu hwnt i’r pwerau hynny, gallent fod yn atebol yn bersonol am ganlyniadau unrhyw weithred diawdurdod neu esgeulus a gyflawnwyd yn enw’r Gymdeithas.
  3. Mae Aelodau’r Cyngor yn cyflawni rôl ymddiriedol. Rhaid iddynt ddangos ewyllys da yn eu holl ymwneud â busnes y Gymdeithas a gofalu i beidio â chymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad busnes gan y Gymdeithas a allai roi elw ariannol neu fudd diriaethol i fuddiannau busnes y mae gan yr Aelod ryw gysylltiad ag ef. Mae angen safon debyg o ymddygiad os yw Aelod yn cymryd rhan yn y broses o benodi staff i’r Gymdeithas.
  4. Rhaid i aelodau beidio â’u gosod eu hunain o dan unrhyw rwymedigaeth ariannol na rhwymedigaeth arall i sefydliadau unigol allanol a allai ddylanwadu arnynt wrth gyflawni eu dyletswyddau swyddogol, a rhaid iddynt gadw at Bolisi Gwrth-Lwgrwobrwyo Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
  5. Rhaid i Aelodau’r Cyngor ddatgan unrhyw fuddiant ariannol, personol neu deuluol mewn unrhyw fater sy’n cael ei drafod ac ni chânt gymryd unrhyw ran wrth ystyried unrhyw fater y mae ganddynt unrhyw fuddiant o’r fath ynddo, na phleidleisio ar y mater hwnnw, a byddant (oni chânt wahoddiad i aros) yn ymadael ar gyfer y drafodaeth, ac eithrio lle bo cynigion ar gyfer yswiriant aelodau’r Cyngor rhag atebolrwydd yn cael eu trafod. Os oes angen, bydd y Llywydd – neu, yn ei absenoldeb neu lle bo’r mater yn berthnasol i fuddiannau’r Llywydd, Is-lywydd – yn penderfynu a oes achos o wrthdaro buddiannau’n berthnasol i unrhyw Aelod Cyngor ar unrhyw adeg benodol. Os bwriedir ystyried buddiannau’r Llywydd, ac nad oes Is-lywydd yn bresennol, yr Ysgrifennydd Cyffredinol neu’r Trysorydd fydd yn penderfynu ynghylch y mater. Os bwriedir ystyried buddiannau’r Is-lywydd ac nad yw’r Llywydd na’r Is-lywydd arall yn bresennol, yr Ysgrifennydd Cyffredinol neu’r Trysorydd fydd yn penderfynu ynghylch y mater.
  6. Mae’r Gymdeithas yn cadw Cofrestr o Fuddiannau’r Aelodau Cyngor, sy’n galluogi Aelodau i ddatgelu buddiannau perthnasol mewn modd agored a thryloyw, ac sy’n dangos nad yw’r buddiannau hynny’n dylanwadu ar broses benderfynu’r Gymdeithas. Gofynnir i bob Aelod gwblhau profforma ar gyfer y gofrestr bob blwyddyn ac adrodd am unrhyw newidiadau o bwys ers y profforma diwethaf. Cedwir y Gofrestr gan Glerc y Cyngor, ac fe’i cynigir i’w harchwilio gan y cyhoedd.
  7. Dylai unrhyw Aelod nad yw’n sicr o’i sefyllfa mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar fusnes y Gymdeithas ofyn am arweiniad gan y Clerc, ond dyma’r egwyddorion cyffredinol a fydd, o’u cadw, yn diogelu statws pob Aelod:
    • Dylai’r camau a gymerir a’r penderfyniadau a wneir fod er budd y Gymdeithas ar bob achlysur.
    • Dylid datgan buddiannau personol neu’r posibilrwydd o enillion personol gan yr Aelod neu rywun sy’n gysylltiedig â’r Aelod.
    • Ni ddylid cymryd rhan o gwbl mewn pleidlais ar unrhyw fater a allai greu enillion personol neu achosi atebolrwydd personol.
    • Dylid sicrhau tryloywder wrth gynnal busnes y Gymdeithas: ni ddylid arfer cyfrinachedd, ond pan fydd hi’n glir bod hynny er budd y Gymdeithas
    • Mae angen arfer doethineb a rheolaeth effeithlon ac economaidd mewn unrhyw benderfyniadau sy’n ymwneud â chyllid ac asedau’r Gymdeithas.
    • Dylid ystyried yr angen i fonitro Swyddogion y Gymdeithas wrth arfer eu dyletswyddau.
    • Os oes amheuaeth, dylid gofyn cwestiynau bob tro. Ni ddylid cymeradwyo unrhyw beth heb ddealltwriaeth lawn o’r materion dan sylw.

8. Fel y corff sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol, rheolaeth a hyfywedd ariannol y Gymdeithas, dylai’r Cyngor weithio’n unol ag egwyddorion arweiniol. Er mwyn annog gweithredu arfer da yng nghyswllt rheoli a llywodraethu ariannol effeithiol, dylid cadw at yr egwyddorion canlynol:

    • Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gyfeiriad y Gymdeithas, ac am y penderfyniadau allweddol a wneir oddi mewn iddi, yn amodol ar y pwerau hynny y gellir eu breinio i’r Gymrodoriaeth yn ei chyfanrwydd.
    • Mae’r Cyngor yn gyfrifol am iechyd ariannol y Gymdeithas
    • Dylid diffinio, deall, derbyn ac adolygu rolau a chyfrifoldebau’r Cyngor, y Llywydd a’r Swyddogion eraill yn rheolaidd.
    • Dylai cymwyseddau’r Cyngor, y Llywydd a’r Swyddogion eraill fod yn unol ag anghenion y Gymdeithas a dylid eu hadolygu’n rheolaidd
    • Dylai’r Gymdeithas gynllunio’n strategol a meddu ar allu priodol i’r diben hwn.
    • Dylid cael cynllun corfforaethol sy’n cynnwys strategaeth ariannol
    • Dylid cydnabod, asesu a rheoli cyfleoedd a risgiau
    • Dylai’r wybodaeth a roddir i’r Cyngor a’i Swyddogion fod yn berthnasol, yn ddibynadwy ac yn amserol
    • Dylid cyfathrebu’n effeithiol drwy’r holl Gymdeithas
    • Dylai strwythurau, prosesau a systemau cadarn ac addas i’r diben fod ar waith

9. Wrth gynnal busnes y Cyngor, dylai Aelodau weithredu’n unol â’u cydwybod, gan ystyried y cyngor a roddir ym mharagraffau 5 ac 8 uchod.

10. Mae’n rhaid i aelodau fod yn gyd-gyfrifol am benderfyniadau a wneir, gan gynnwys rhai a wneir gan bwyllgor llywodraethu, is-bwyllgor neu weithgor enwebedig. Mae’n ofynnol i aelodau gadw cyfrinachedd hyd at safon briodol. Ymdrinnir ag unrhyw achos o ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol fel achos o dorri’r Cod Ymddygiad.

Dylai aelodau ymddwyn mewn modd nad yw’n niweidio nac yn tanseilio enw da Cymdeithas Ddysgedig Cymru na’i staff yn unigol, neu gyda’i gilydd, ac ni ddylent gymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch sy’n gwrthdaro ag amcanion y Gymdeithas, neu a allai ddifetha ei enw da.

Gweithdrefn ar gyfer Cwynion neu Honiadau o Gamymddwyn Difrifol yn erbyn Cymrodyr