Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n dathlu Gwyddonwyr Blaenllaw o Gymru

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n falch i gyhoeddi enwau’r sawl sydd wedi derbyn Medalau Menelaus a Frances Hoggan eleni, sef y Gwyddonwyr Cymreig blaenllaw yr Athro y Fonesig Jean Thomas a’r Athro Hagan Bayley.

Yr Athro y Fonesig Jean Thomas FLSW FMedSci FRS yw enillydd cyntaf Medal Frances Hoggan. Mae’r fedal, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, yn cydnabod cyfraniadau eithriadol i ymchwil mewn unrhyw faes ymchwil STEMM gan fenyw sy’n byw yng Nghymru, a anwyd yng Nghymru neu a all ddangos cyswllt penodol â Chymru. Mae’r Athro y Fonesig Jean FLSW FMedSci FRS yn Athro Emerita Biocemeg Macrofoleciwlaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt, Meistr Coleg Santes Catharine Caergrawnt ac yn Llywydd y Gymdeithas Bioleg Frenhinol yn ogystal â bod yn Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig a’r Gymdeithas Frenhinol.

Dywedodd y Fonesig Jean:

Rwyf i wrth fy modd ac yn ei theimlo’n anrhydedd i dderbyn y Fedal Frances Hoggan gyntaf. Roedd Frances Hoggan yn arloeswr eithriadol – dim ond yr ail fenyw i dderbyn Gradd Doethur mewn Meddygaeth o Brifysgol Ewropeaidd yn 1870, ac ymgyrchydd a diwygiwr cymdeithasol gweithredol, oedd â diddordeb penodol mewn addysg i ferched yng Nghymru. Bydd creu’r fedal hon nid yn unig yn cadw’r cof amdani’n fyw ond bydd hefyd gobeithio’n ysbrydoli pobl eraill, yn enwedig merched Cymru, i fynd i feysydd STEMM a chydio yn y cyfleoedd mae’r rhain yn eu cynnig.

Yr Athro Hagan Bayley FLSW FRS yw’r pedwerydd unigolyn i dderbyn Medal Menelaus y Gymdeithas.

Dyfernir y Fedal, a noddir gan Ymddiriedolaeth Addysgol Sefydliad Peirianwyr De Cymru (SWIEET2007), am “ragoriaeth mewn unrhyw faes o beirianneg a thechnoleg i academydd, ymchwilydd diwydiannol neu ymarferydd diwydiannol sy’n preswylio yng Nghymru neu a anwyd yng Nghymru ond sy’n byw yn rhywle arall, neu sydd fel arall â chysylltiad penodol â Chymru”.

Mae’r Athro Bayley yn Athro Cemeg Fiolegol ym Mhrifysgol Rhydychen ac yn Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig a’r Gymdeithas Frenhinol. Mae’n adnabyddus drwy’r byd fel sylfaenydd a’r ffigur blaenllaw ym maes datblygu nanoporau sy’n gallu canfod un moleciwl sengl o unrhyw fath. Mae’r Athro Bayley wedi symud ei ymchwil i faes defnydd o argraffyddion 3D gan ddefnyddio defnynnau sy’n ymdebygu i gelloedd biolegol. Yn y dyfodol gallai hyn arwain at synthesis o organau biolegol. Yn 2014 sefydlodd OxSyBio i adeiladu meinwe synthetig ar gyfer meddygaeth atgynhyrchiol.

Dywedodd yr Athro Bayley:

Rwyf i wrth fy modd i dderbyn Medal Menelaus Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Roedd William Menelaus yn berson ymarferol, ond pe bai’n fyw heddiw rwy’n credu y byddai’n gwerthfawrogi’r cyfleoedd busnes sy’n codi mor aml o ymchwil sylfaenol fel maen nhw wedi’i wneud i mi.

Cyflwynwyd y ddwy Fedal yn ystod seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar 18 Mai 2016 yng Nghinio Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas.