Cydbwysedd Rhwng y Rhywiau yn y Gymdeithas
Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n ymrwymo i annog cydbwysedd eang o arbenigedd pwnc (y celfyddydau, y gwyddorau a’r gwyddorau cymdeithasol), lleoliad daearyddol, rhyw, hil/ethnigrwydd ac oedran ymhlith y Gymrodoriaeth.
Cydbwysedd Rhwng y Rhywiau yn y Gymrodoriaeth
Ym mis Hydref 2013, sefydlodd y Cyngor Weithgor ar Gydbwysedd Rhwng y Rhywiau dan gadeiryddiaeth y Fonesig Teresa Rees. Casgliad y gweithgor oedd bod y nifer o enwebiadau benywaidd yn anghymesur o isel ac o ganlyniad, bod llai o gyfle i fenywod gael eu hethol yn Gymrodyr.
Ar ôl edrych ar ddulliau gweithredu Cymdeithasau eraill, lluniodd grŵp y Fonesig Rees set o argymhellion i helpu i gywiro’r gynrychiolaeth anghymesur o isel o fenywod. Roedd hyn yn cynnwys addasiadau i’r broses enwebu gyfredol er mwyn ehangu’r gronfa o ymgeiswyr a enwebir, ond nid y broses graffu. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys sicrhau bod y broses ethol yn fwy gweladwy, hepgor y cap (o dri) ar y nifer o enwebiadau y gall Cymrawd ei wneud bob blwyddyn yn achos ymgeiswyr benywaidd, darparu arweiniad ysgrifenedig i Gadeiryddion y Pwyllgorau Craffu ac amlygu gwelededd Cymrodyr benywaidd.
Ers hynny, mae’r cyngor wedi mynd ati’n rhagweithiol i hybu’r addasiadau hyn sy’n raddol yn dwyn ffrwyth. Y llynedd (2014/15) y ganran o Gymrodyr benywaidd a etholwyd (35%) oedd yr uchaf yn hanes y Gymdeithas, gyda menywod yn cyfrif am yn agos i 15% o gymrodoriaeth y gymdeithas. Ym mis Ebrill 2016 roedd 26% o’r Cymrodyr newydd yn fenywaidd, gan gynyddu’r ganran o fenywod yn y Gymrodoriaeth i 16.4%.