Cynllun Grantiau Ymchwil yn parhau i gefnogi arbenigwyr Cymru yn y dyfodol
Mae prosiectau mor eang â phlismona ac ansawdd aer, Iaith Arwyddion Prydain ac allgau cymdeithasol wedi derbyn cyllid yn rownd ddiweddaraf cynllun Grantiau Ymchwil Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae’r cynllun yn dyfarnu hyd at £1000 i ymchwilwyr i redeg gweithdai sydd yn dod â phobl at ei gilydd ar gam cynnar y gwaith o gynllunio a datblygu prosiect ymchwil cydweithredol.
Y nod yw bod y gweithdai hyn yn arwain at greu rhwydwaith ymchwil neu geisiadau am gyllid ychwanegol i ddatblygu’r prosiect ymhellach.
Meddai Barbara Ibinarriaga Soltero, Rheolwr Rhaglen Cymdeithas Ddysgedig Cymru ar gyfer Datblygu Ymchwilwyr:
“Un o nodau sylfaenol Cymdeithas Ddysgedig Cymru ydy creu amgylchedd sy’n cefnogi arbenigwyr y presennol a dyfodol Cymru.
“Mae’r cynllun grant yn rhan hanfodol o’r gwaith hwnnw.
“Ers i ni ei lansio dwy flynedd yn ôl, mae’r cynllun wedi cefnogi dros 30 o brosiectau gwahanol, ac mae’n dod yn rhan bwysig o dirwedd ymchwil Cymru.”
Y cynlluniau a dderbyniodd arian yn y rownd gyntaf o geisiadau ar gyfer 2023/24 oedd:
- Goruchwyliaeth Cyfoedion Heddlu i Gefnogi Llesiant
- Rhwydwaith Asesu De Cymru (SWAN)
- Meithrin Noddfeydd a Gwrth-Hiliaeth drwy Gydweithrediadau Cymunedol
- Gwyddoniaeth dinasyddion cyd-gynhyrchu ansawdd aer ym Mwrdeistref Sirol Caerffili
- Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnal Ôl-raddedig Hanes Cymru
- Ehangu’r rhwydwaith BSL a’r Rhwydwaith Ymchwil Byddardod yng Nghymru
- Prosiect Cynghanedd Rhyngwladol Bardd Cenedlaethol Cymru
- Grŵp Diddordeb Ymchwil Allgáu Cymdeithasol (SOCSEN)
Mae’r rownd ddiweddaraf o geisiadau ar agor nawr. Manylion llawn yma.