Dathlu Gweledigaeth Mark Drakeford ar gyfer Cynghrair Academïau Celtaidd

Gan fod Mark Drakeford wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu ymddeol fel Prif Weinidog Cymru, dyma gyfle perffaith i gnoi cil ar ei waddol ac, yn arbennig, ar y gefnogaeth a roddodd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru a’r Cynghrair Academïau Celtaidd.

Yn sgil y gefnogaeth a roddodd Mark i’r Gynghrair Academïau Celtaidd, cafodd gyfle i gymryd rhan uniongyrchol mewn trafodaethau yng Nghaeredin ym mis Mehefin 2023, ochr yn ochr â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymdeithas Frenhinol Caeredin ac Academi Frenhinol Iwerddon. Yno, tynnodd sylw at ei ymrwymiad i feithrin ymchwil a datblygu polisïau, nid yn unig yng Nghymru, ond trwy’r holl wledydd Celtaidd. Mae’r diddordeb a ddangosodd yn y Cynghrair yn arwydd o’i gred y dylai Cymdeithas Ddysgedig Cymru hwyluso cydweithredu academaidd – rhywbeth a fydd, yn ei dro, yn ysgogi cynnydd cymdeithasol.

Yn ôl Olivia Harrison, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a ymunodd â’r Prif Weinidog ar ei ymweliad â Chymdeithas Frenhinol Caeredin: “Roedd y Prif Weinidog yn awyddus i archwilio slogan y Gymdeithas, sef ‘sicrhau bod gwybodaeth yn ddefnyddiol’. Mae hyn yn ganolog i genhadaeth y tair academi.

“Fel Academi Genedlaethol Cymru, rydym yn cefnogi’r arfer o ddefnyddio ymchwil a gwybodaeth ragorol ac amrywiol i ddatrys yr heriau sy’n wynebu Cymru a’r byd.”

*Mae’r Cynghrair Academïau Celtaidd, a sefydlwyd yn 2021, yn uno arbenigedd tair academi er mwyn dylanwadu ar bolisïau cyhoeddus yng Nghymru, yr Alban ac Iwerddon. Mae’r Cynghrair yn hwyluso deialog ymhlith ymchwilwyr, llunwyr polisïau, arweinwyr y byd diwydiant, a sectorau diwylliannol, gan wella dealltwriaeth o faterion sy’n wynebu’r gwledydd datganoledig wrth gyfrannu at drafodaeth ehangach ledled y DU.