Medal Dillwyn (STEMM) 2024
Dr Laura Richardson, Cymrawd Ymchwil, Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor
Mae’r Dr Laura Richardson wedi derbyn medal Dillwyn (STEMM) Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.
Mae cyfraniadau rhagorol Dr Richardson i faes gwyddor y môr yn enghraifft o’i rhagoriaeth, ei harweinyddiaeth a’i hymrwymiad i effaith gymdeithasol.
Mae ei gwaith wedi denu sylw rhyngwladol sylweddol, ac mae’n dangos cyflawniad mewn ymchwil ac addysgu fel ei gilydd.
Mae ei gwaith nid yn unig yn datblygu gwybodaeth wyddonol, ond mae hefyd yn meithrin cynhwysedd a hygyrchedd mewn addysg ac ymchwil.
“Rwy’n teimlo anrhydedd ac yn falch iawn o fod wedi derbyn y wobr hon. Mae’n golygu llawer iawn i mi. Diolch o galon i’m cydweithredwyr gwyddoniaeth, mentoriaid a fy ffrindiau sydd wedi cyfrannu ar hyd y ffordd.”
Dr Laura Richardson
Mae tair medal Dillwyn y Gymdeithas yn dathlu Ysgolheictod Cymru ac yn cael eu dyfarnu i ymchwilwyr gyrfa cynnar gyda rhwng dwy a deng mlynedd o brofiad proffesiynol. Mae’r medalau hyn yn cael eu henwi er anrhydedd i’r teulu Dillwyn nodedig o Abertawe, a gafodd eu gwahaniaethu mewn sawl maes o weithgarwch deallusol yn y celfyddydau a gwyddoniaeth.