Ydych chi’n gweithio gyda rhywun rydych chi’n meddwl sy’n haeddu un o’n medalau?
Bydd llwyddiant a ffyniant Cymru yn y dyfodol yn dibynnu ar iechyd a chryfder ei sectorau ymchwil.
Byddwch chi, yn anad dim, yn gwybod nad oes dim o hyn yn bosibl heb y bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw, yr ymchwilwyr a’r arweinwyr sy’n gweithio o fewn eich sefydliad.
Mae medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn cydnabod ac yn dathlu’r bobl hyn. Rydym yn dyfarnu ein medalau bob blwyddyn i bobl sy’n gwneud ymchwil arloesol, ble bynnag maen nhw’n gweithio, boed hynny yn y sectorau diwydiant, addysg uwch, y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector.
- Medal Menelaus: yn cael ei dyfarnu I ymchwilydd, ymarferydd neu academydd diwydiannol sy’n gysylltiedig â Chymru.
- Medal Frances Hoggan: yn cydnabod menywod sy’n gweithio yn y sectorau gwyddoniaeth, technoleg, mathemateg peirianneg a meddygaeth.
- Medal Hugh Owen: yn cydnabod ymchwil addysgol eithriadol, neu gymhwyso ymchwil i sicrhau arloesi sylweddol mewn polisi addysg.
- Medalau Dillwyn:yn dathlu cyfraniad ymchwilwyr gyrfa gynnar sy’n gweithio yng Nghymru, neu sydd â chysylltiad â Chymru.
Ydych chi’n gweithio gyda rhywun rydych chi’n meddwl sy’n haeddu un o’n medalau? Os felly, ystyriwch eu henwebu heddiw.
Y cyfan sy’n bwysig yw bod ganddynt gysylltiad â Chymru, a’u bod nhw’n dangos sut mae ymchwil o Gymru yn ffynnu ac yn arloesol, ac yn cyflawni canlyniadau sydd o fudd i gymdeithas ehangach.
Mae enillwyr yn cael eu cyflwyno gyda medal sydd wedi’i dylunio unigol mewn seremoni fawreddog o flaen cynulleidfa a wahoddir yng Nghaerdydd. Mae pob enillydd yn derbyn gwobr ariannol a thystysgrif hefyd.
Mae hwn yn gyfle gwych i gydnabod ymchwilwyr benywaidd yn eich sefydliad, a dathlu eu gwaith a’u cyflawniadau rhagorol.
Cysylltwch â Helen Willson, Rheolwr Ymgysylltu Strategol, os oes gennych unrhyw gwestiynau.