Dr. Emrys Evans

Dr. Emrys Evans yw enillydd Medal Dillwyn 2021 Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth), a ddyfernir i gydnabod rhagoriaeth ymchwil gyrfa gynnar.

Mae Dr. Emrys Evans yn derbyn un o’n medalau Dillwyn 2021 (STEMM) am ei waith a’i ymchwil ym maes optoelectroneg.

Mae Dr Evans, Cymrawd Ymchwil y Brifysgol mewn Cemeg o’r Gymdeithas Frenhinol, yn gweithio ym maes lled-ddargludyddion organig, yn astudio dosbarth newydd o ddeunyddiau gyda rhaglenni posib yn amrywio o optoelectroneg i wyddoniaeth gwybodaeth gwantwm.

Darllenwch fwy am waith Dr. Evans.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd Dr Evans:

“Rwy’n hapus dros ben o dderbyn y fedal hon, ac rwyf eisiau diolch i fy mentoriaid, fy nghydweithwyr a fy myfyrwyr o’r gorffennol i’r presennol.

“Mae fy ymchwil yn archwilio deunyddiau moleciwlaidd a allai arwain at gynhyrchu mwy o olau rhad-ar-ynni, a chreu’r sail ar gyfer technolegau newydd. Cefais fy magu yn Abertawe, ac rwy’n gyffrous o fod wedi dychwelyd y llynedd, ac i arwain fy ymchwil o Gymru.”