Grant Cymru Ystwyth ar gyfer prosiect sy’n archwilio profiadau bywyd Iddewon yng Nghymru ac Iwerddon

Mae materion gwrth-semitiaeth, cenedlaetholdeb, hunaniaeth, perthyn ac iaith yn ganolbwynt prosiect ymchwil ar y cyd rhwng Cymru ac Iwerddon, a fydd yn cael ei ariannu gan Gynllun Grant Cymru Ystwyth, sydd yn cael ei reoli gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae’r prosiect, a ddewiswyd o gyfres gryf o geisiadau, yn derbyn £12,500 i redeg cyfres o weithdai. Bydd y rhain yn dwyn ynghyd ysgolheigion blaenllaw mewn Hanes Gwyddelig- ac Iddewig-Gymreig, gyda’r nod mwy hirdymor o ddatblygu rhwydwaith ymchwil.

Yr ymchwilwyr arweiniol yw’r Athro Nathan Abrams, Athro mewn Ffilm ym Prifysgol Bangor, a Dr Zuleika Rodgers, Athro Cyswllt mewn Astudiaethau’r Dwyrain Agos a Chanol yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.

Meddai’r Athro Abrams: “Rwy’n falch iawn fy mod i wedi ennill y grant mawreddog hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at y trafodaethau cyffrous gyda chydweithwyr sy’n gweithio ar hanes Gwyddelig- ac Iddewig-Gymreig. Dwi ddim yn siŵr bod unrhyw beth fel hyn wedi cael ei wneud o’r blaen.”

Bydd y gweithdai a’r cydweithrediadau parhaus yn herio’r ffocws Eingl-sentrig a Llundain-sentrig yn llawer o’r astudiaethau ar Iddewon yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon.

Lluniwyd y cais gyda’r nod o gynyddu dealltwriaeth ar y cyd ac o ganlyniad, cyfrannu at gymunedau cydlynol a’r meysydd diwylliannau ffyniannus yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Mae cydweithio wrth wraidd y prosiect, gyda chyfranogiad sefydliadau Treftadaeth Iddewig yn y ddau leoliad. Bydd cyfleoedd ymchwil i fyfyrwyr MA a PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa hefyd yn dilyn ymlaen o’r gweithdai.

Wrth edrych yn ehangach, bydd y prosiect yn cefnogi astudiaethau achos eraill o gymunedau lleiafrifol. Bydd yn dangos arfer gorau drwy ofyn pa wersi y gellir eu dysgu o’r math hwn o ymchwil wrth eu cymhwyso i gyd-destunau eraill, yn enwedig dulliau o gasglu gwybodaeth am dreftadaeth leiafrifol, iaith a diwylliant.

Disgwylir i’r gweithdai cyntaf redeg ym mis Ionawr 2024.