CADY a Dinesig: Y Genhadaeth a Rennir Gennym

Ym mis Awst 2024, bydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, CCAUC, yn trosglwyddo i gorff cyhoeddus newydd, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Ers 2023, mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW) wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth agos â CCAUC i gyflawni ein strategaeth bum mlynedd, gyda blaenoriaethau craidd:

  1. Cyfrannu at ddatrysiadau polisi mawr drwy ddarparu cyngor annibynnol a hwyluso cyfnewid gwybodaeth.
  2. Creu amgylchedd sy’n cefnogi arbenigwyr Cymru rŵan ac yn y dyfodol.
  3. Datblygu cymrodoriaeth fwy amrywiol a gweithgar.
  4. Datblygu ein sefydliad.

Ym mis Chwefror 2024, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ddatganiad o flaenoriaethau strategol ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil ac arloesi fel paratoad ar gyfer lansio’r Comisiwn. Roedd LSW yn falch o nodi parhad yn y cyfunionedd rhwng ein nodau ni a rhai’r Comisiwn, fel sydd wedi digwydd gyda CCAUC.

Yn benodol, y penderfyniad i’r comisiwn rhoi blaenoriaeth i:

sicrhau bod y system addysg drydyddol yn cyfrannu at yr economi a’r gymdeithas,

sy’n cyd-fynd yn uniongyrchol â chenhadaeth LSW:

Bydd hyrwyddo addysg, dysgu, astudiaeth academaidd a gwybodaeth yn cyfrannu at ddatblygiad gwyddonol, diwylliannol, cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yng Nghymru a thu hwnt.

Ochr yn ochr â gwerthoedd craidd mewn ymchwil sy’n sylfaenol i waith cymdeithas genedlaethol – rhagoriaeth, cydweithredu, ac enw da rhyngwladol – mae’r datganiad, yn gywir felly, yn pwysleisio canologrwydd cynyddol y genhadaeth ddinesig ar gyfer y sector ymchwil. Mae Cymru yn arweinydd clir mewn cenhadaeth ddinesig: tra bod gan lawer o brifysgolion y DU strategaeth cenhadaeth ddinesig ac yn defnyddio’r derminoleg,  mae saith o’r deg canlyniad uchaf ar gyfer “cenhadaeth ddinesig” ar draws sawl peiriant chwilio gan sefydliadau Cymreig. Amlygwyd hyn yn ein hadolygiad diweddar o astudiaethau achos effaith REF 2021 Cymru, a ganfu fod 70% o astudiaethau achos effaith  yn dogfennu effaith yng Nghymru, a “Chymru” oedd y canlyniad uchaf o fodelu pwnc ar draws pob un o’r 280 o astudiaethau achos effaith a gyflwynwyd gan SAU Cymru. Mae ymchwilwyr ar draws pob disgyblaeth yng Nghymru yn canolbwyntio ar greu buddion i’w cymunedau lleol.

Yn 2022, gofynnodd Gweinidog yr Economi ar y pryd, Vaughan Gething, i LSW gynnal cyfres o drafodaethau bord gron arbenigol i fwydo i mewn i Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru.

Yn briodol, mae cenhadaeth ddinesig hefyd yn faes gwaith cynyddol ar gyfer LSW. Yn 2022, gofynnodd Gweinidog yr Economi ar y pryd, Vaughan Gething, i LSW gynnal cyfres o drafodaethau bord gron arbenigol i fwydo i mewn i Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru. Rydym yn parhau â’r sgwrs gydag ail gyfres o fordiau crwn sy’n canolbwyntio ar Arloesi Cynhwysol, a luniwyd i gynghori sut y gallai gweithredu’r strategaeth gefnogi uchelgeisiau Cymru ar gyfer cymdeithas gynhwysol yn ymarferol. Yn ein bord gron ym mis Mawrth, gwelwyd arbenigwyr arloesi o SAUau Cymru a rhyngwladol, diwydiant, a’r sector cyhoeddus yn trafod ac yn mireinio syniadau am genhadaeth ddinesig mewn arloesi. Nodwyd pum elfen allweddol i waith cenhadaeth ddinesig ystyrlon:

  • Cydweithredu Rhanbarthol: Meithrin cydweithio a chydlynu rhwng prifysgolion, darparwyr addysg bellach, busnesau, y trydydd sector, y sector cyhoeddus a chymunedau yn y rhanbarth. Datblygu a buddsoddi’n barhaus mewn rhwydweithiau lleol cynhwysol sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau traddodiadol i wella effaith mentrau ymgysylltu dinesig.
  • Dulliau seiliedig ar le: Rhaid addasu a chymhwyso dysgu o ardaloedd eraill yn ofalus. Er mwyn sefydlu eu cyfraniad fel sefydliadau angori, rhaid i sefydliadau ymchwil ac arloesi ddatblygu cenhadaeth ddinesig wedi’i theilwra yn seiliedig ar ddealltwriaeth ddofn o’u hardal, ei chymunedau a’i hunigrywiaeth.
  • Buddsoddi mewn Gallu Sefydliadol: Canolbwyntio ar gryfhau gallu sefydliadol a gallu amsugnol i ymgysylltu â chymunedau’n effeithiol, gan fod cydweithio’n llafur-ddwys. O fewn sefydliadau addysg uwch a’u cydweithredwyr, dylid prif ffrydio ymrwymiad ac arbenigedd mewn ymgysylltiad dinesig rhagorol ar draws cyllidebau, polisïau ac adrannau yn hytrach na dibynnu ar unigolion neu brosiectau penodol.
  • Pŵer Ymgysylltu Dinesig: Mae dulliau uchelgeisiol o ymgysylltu dinesig wedi arwain at fuddion sylweddol i ymchwilwyr a sefydliadau tra’n cyfrannu at ganlyniadau cymdeithasol cadarnhaol. Gall ymgysylltiad dinesig ystyrlon arwain at greu gwybodaeth ac arloesedd gynhwysol sydd ar flaen y gad.
  • Dathlu Cyflawniadau: Mae’n hanfodol dathlu’r cynnydd a wnaed mewn ymdrechion ymgysylltu dinesig yn lleol ac yn genedlaethol ac i rannu llwyddiant trwy ymchwil a gwaith ysgrifenedig. Gall cydnabod mentrau llwyddiannus ysbrydoli a hysbysu eraill, gan feithrin diwylliant o ymgysylltiad cymunedol.

Am ragor o fanylion, darllenwch ein brîff o’r ford gron: Ymgysylltu Dinesig ar gyfer Arloesi Cynhwysol yng Nghymru – Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Neges graidd o’r ford gron oedd yr angen i sefydliadau ffrydio cenhadaeth ddinesig drwy eu gwaith yn hytrach na’i roi mewn seilo fel ffrwd weithgaredd ar wahân. Gan weithredu’r theori hon, mae LSW yn dod â chenhadaeth ddinesig i ehangder llawn ein gwaith, yn bwysicaf oll trwy ein cymrodoriaeth ei hun. Mae Cymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig yn gweithio mewn nifer eang o sectorau, gan gynnwys y GIG, busnesau, sefydliadau cymunedol, a’r sector cyhoeddus. Yn cynrychioli Cymru gyfan, ac ar wasgar ledled y byd, maent yn rhannu pwrpas cyffredin wrth roi yn ôl i Gymru. Mae’r awydd cyffredin hwn yn ffurfio calon ein cenhadaeth ddinesig.

Mae ein rhaglen datblygu ymchwilwyr wedi bod yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr yng Nghymru i fwrw ymlaen â’r agenda cenhadaeth ddinesig. Mae arbenigwyr o’n cymrodoriaeth wedi bod yn cynghori a hyfforddi Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar mewn sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer ymgysylltu dinesig ystyrlon: creu effaith, cydweithio cynhwysol, gweithio gyda’r cyfryngau, ac ymgysylltu â pholisïau.

Mae ein cynllun grantiau gweithdy yn hwyluso gwaith cenhadu dinesig ledled Cymru, gan gynnwys llesiant Heddlu Gogledd Cymru (Prifysgol Wrecsam), gwyddoniaeth dinasyddion yng Nghaerffili (Prifysgol Caerdydd), a meithrin gallu i ddadansoddi data ar gyfer sefydliadau gwrth-hiliol a ffoaduriaid ar lawr gwlad (Prifysgol De Cymru). Mae’r grantiau bach hyn yn gam cyntaf hanfodol ar gyfer mentrau newydd ac arloesol sy’n cysylltu ymchwilwyr â’r gymdeithas ddinesig yng Nghymru.

Bydd cyfres o weithgareddau sydd ar y gweill yn ymateb i’r Comisiwn Annibynnol diweddar ar gyfer Dyfodol Cyfansoddiadol Cymru, sydd ei hun yn enghraifft nodedig o ymgysylltiad dinesig sylweddol ac ystyrlon dan gadeiryddiaeth Cymrodyr LSW yr Athro Laura McAllister a’r Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Dr Rowan Williams. Mae’r gwaith hwn yn uniongyrchol berthnasol i bobl Cymru – gan gwmpasu cyfiawnder, plismona, trafnidiaeth, ynni, ac addysg ddinesig – a byddwn angen arbenigedd ymchwilwyr mwyaf blaenllaw ein cenedl mewn deialog â’n cymunedau i gael y camau nesaf yn iawn.

Wrth i’r Comisiwn ddechrau gweithio, rydym yn parhau i dyfu fel Academi Genedlaethol Cymru, ac mae’r sector yn ehangu ei uchelgeisiau yn y gofod dinesig, mae cymaint mwy y gallwn ei wneud gyda’n gilydd, ac mae angen clir i gynyddu ein hymdrechion yn LSW i gefnogi a chataleiddio ymdrechion cenhadaeth ddinesig ledled Cymru gyfan. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Comisiwn, ein Cymrodyr, a’r sector ehangach i gyflawni ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer ymchwil, arloesi a gwybodaeth yng Nghymru.