Lynne Boddy -2018

Yn 2018 dyfarnwyd y fedal i’r Athro Lynne Boddy o Brifysgol Caerdydd, un o ecolegwyr ffwng blaenllaw’r byd. Mae’r Athro Boddy wedi arloesi gydag astudiaeth o’r modd y mae cymunedau ffwng yn datblygu mewn pren ac mae ei gwaith arloesol wedi datgelu rolau allweddol i ffyngau mewn ecosystemau coedwigol.

Wrth dderbyn y fedal, dywedodd yr Athro Boddy:

“Fel ecolegydd ffwng, rwyf i’n ymwybodol iawn fod llawer mwy i ffwng na’r corff ffrwyth eiconig – madarch ac yn y blaen – a bod rhwydwaith mawr o ffilamentau ffwngaidd yn gweithio’n anweledig. Yn yr un modd, er ei bod yn anrhydedd mawr i fi dderbyn y wobr hon, mae llawer o fenywod a dynion talentog wedi perfformio’r arbrofion a chyfrannu syniadau sy’n sail i’n darganfyddiadau a’n dealltwriaeth wyddonol.”