Y Fedal

Mae'r fedal Frances Hoggan yn cydnabod cyfraniad menywod i ymchwil ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM)

Dyfernir Medal Frances Hoggan yn flynyddol i gydnabod cyfraniad eithriadol i ymchwil mewn unrhyw faes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth (STEMM), gan fenyw sy’n byw yng Nghymru, wedi’i geni yng Nghymru neu a all ddangos cyswllt penodol arall â Chymru.

Bydd y sawl sy’n derbyn y fedal yn ymwneud yn weithredol ag ymchwil yn y sector cyhoeddus neu breifat, neu mewn diwydiant.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau oed ac mae’r rheini sydd wedi cymryd toriad yn eu gyrfa hefyd yn gymwys.

Dyfernir medal ddathliadol a grëir yn arbennig i’r enillydd, ac fe’i cyflwynir mewn digwyddiad a drefnir gan y Gymdeithas. Bydd gwobr o £500 a thystysgrif yn cyd-fynd â’r fedal.

Disgwylir i’r enillwyr draddodi darlith gyhoeddus berthnasol a/neu gyhoeddi erthygl fer sy’n codi proffil menywod ym meysydd STEMM yng Nghymru ac yn y DU.

Mae’r cais am enwebiadau’n agored i bawb, ond ni chaiff neb ei henwebu ei hun.


Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Llywodraeth Cymru tuag at Fedal Frances Hoggan