Medal Hugh Owen 2017

Dyfarnwyd Medal Hugh Owen, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, i’r Athro Chris Taylor o Brifysgol Caerdydd, i gydnabod ei gyfraniad eithriadol i ymchwil addysgol – ymchwil sydd nid yn unig yn arloesol yn fethodolegol ond sydd hefyd wedi llywio datblygiad polisïau addysg allweddol yng Nghymru. Dywedodd yr Athro Taylor

“Mae’n anrhydedd cael derbyn y Fedal Hugh Owen gyntaf gan y Gymdeithas Ddysgedig. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod pwysigrwydd ymchwil yn system addysg Cymru. Heb hyn ni allwn fod yn hyderus bod ein polisiau a’n harferion yn mynd i’r afael â’r materion cywir neu’n sicrhau canlyniadau effeithiol.”

Wrth ddyfarnu’r fedal, dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas

“Dylai addysg gynnig cyfle i bawb ddatblygu eu talentau, dysgu a chael eu hamlygu i syniadau. Mae angen i ni i gyd wneud yn well, a gall ymchwil ymarferol rhagorol helpu i ffurfio polisïau mwy effeithiol.”