Medal Hugh Owen 2019

Dyfarnwyd Medal Hugh Owen i’r Athro Enlli Thomas, Athro a Chyfarwyddwr Ymchwil ac Effaith, yr Ysgol Addysg, Prifysgol Bangor, am gyfraniadau i ymchwil addysgol, i gydnabod ei harbenigedd ar y Gymraeg, dwyieithrwydd ac astudiaethau mewn addysgu, dysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Thomas:

“Rwy’n falch iawn o fod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr arbennig hon eleni, ac yn hynod ddiolchgar i’r rhai hynny a fy enwebodd ac i’r Gymdeithas am ddyfarnu’r fedal hyfryd hon i mi gan roi cydnabyddiaeth i’m gwaith.  Mae hi wir yn fraint ac yn anrhydedd cael bod wedi gweithio mewn maes sydd yn agos iawn at fy nghalon ers dros 20 mlynedd bellach – sef datblygiad y Gymraeg a dwyieithrwydd mewn plant – ac mae’n braf cael bod yn rhan o’r bwrlwm cenedlaethol wrth i ni lunio strategaethau ac ymyraethau addysgol, yn seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn cymell rhagor o ddefnyddwyr o’r Gymraeg erbyn 2050.”