Y Fedal
Enwir y fedal er anrhydedd i Syr Hugh Owen (1804-1881).
Mae’r wobr, sy’n derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cyflawni amcan strategol y Gymdeithas o gydnabod a dathlu rhagoriaeth mewn disgyblaethau’n gysylltiedig â Chymru.
Dyfernir Medal Hugh Owen i gydnabod ymchwil addysgol eithriadol, neu gymhwyso ymchwil i sicrhau arloesi sylweddol mewn polisi addysg a/neu arferion addysgol yng Nghymru.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau oed ac mae’r rheini sydd wedi cymryd toriad yn eu gyrfa hefyd yn gymwys.
Dyfernir medal ddathliadol a grëir yn arbennig i’r enillydd, ac fe’i cyflwynir mewn digwyddiad a drefnir gan y Gymdeithas. Bydd gwobr ariannol o £500 a thystysgrif yn cyd-fynd â’r fedal.
Disgwylir i’r enillwyr draddodi darlith gyhoeddus berthnasol a/neu gyhoeddi erthygl fer sy’n codi proffil ymchwil addysgol.
Mae’r cais am enwebiadau’n agored i bawb, ond ni all enwebeion enwebu eu hunain.