Y Fedal

Enwyd Medal Menelaus ar ôl peiriannydd mecanyddol a rheolwr cyffredinol Cwmni Haearn Dowlais, William Menelaus (1818-82).

Mae’r dyfarniad, a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Addysgol Sefydliad Peirianwyr De Cymru (SWIEET), yn bodloni amcan strategol y Gymdeithas sef cydnabod a dathlu rhagoriaeth mewn disgyblaethau ysgolheigaidd sy’n gysylltiedig â Chymru.

Ganwyd William Menelaus yn 1818 yn East Lothian yn yr Alban a symudodd i Gymru yn 1850 i ymuno â’r Dowlais Iron Company fel peiriannydd-reolwr adran y melinau a’r gefeiliau.

Fel rheolwr llwyddiannus, dyfeisiodd Menelaus nifer o ddyfeisiau trin mecanyddol a dyluniodd y Felin Gafr ddau-gyfeiriad newydd enfawr ar gyfer rholio haearn. Ef oedd yr un a sbardunodd sylfaenu Sefydliad Peirianwyr De Cymru yn 1857 a hefyd Sefydliad Haearn a Dur Prydain Fawr. Roedd ei enw da fel peiriannydd yn deillio o’i ddyfeisiadau newydd a gyflwynwyd ganddo yn Nowlais. Ym mis Mai 1881, cyflwynwyd medal aur Bessemer i Menelaus i gydnabod ei wasanaeth i’r diwydiant haearn a dur.