Rebecca Melen- Medal Dillwyn ar gyfer STEMM 2019

Dyfarnwyd medalau Dillwyn ar gyfer STEMM i Dr Rebecca Melen, Uwch-ddarlithydd a Chymrawd EPSRC ym Mhrifysgol Caerdydd a Dr Emily Shepard, Athro Cyswllt yn y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn ei gyrfa hyd yma, mae Dr Melen wedi gwneud cyfraniad rhagorol mewn cemeg, ym maes catalysis, ac ynni. Mae wedi datblygu a defnyddio adweithyddion ar gyfer cataleiddio trawsnewidiadau cemegol, ac wedi gweithio i wneud catalysis yn llai gwenwynig.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Melen:

“Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Ddysgedig Cymru am y fedal hon. Rwyf i’n ymchwilio ym maes catalysis ac mae catalyddion yn gweithio drwy ostwng y rhwystr ynni ar gyfer adwaith cemegol ac felly’n sicrhau bod adweithiau’n fwy effeithlon o lawer. Rhaid i fi ddiolch i fy ngrŵp ymchwil am bopeth maen nhw wedi’i wneud i fy helpu i lwyddo yn y maes hwn.”