Stuart Fox: Medal Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithasol, Economeg a Busnes 2019
Dyfarnwyd y medalau Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithasol, Economeg a Busnes eleni i Dr Stuart Fox a Dr Luke Sloan, ill dau o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.
Dyfarnwyd y medalau Dillwyn yn y Gwyddorau Cymdeithasol, Economeg a Busnes eleni i Dr Stuart Fox a Dr Luke Sloan, ill dau o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.
Dyfarnwyd y fedal i Dr Fox am ei waith yn astudio agweddau ac ymddygiad gwleidyddol a dinesig, gan ddefnyddio arolygon cymdeithasol a dulliau ymchwil meintiol. Mae ei waith wedi ystyried ymgysylltu gwleidyddol ymhlith pobl ifanc, yn enwedig yn ystod Refferendwm yr UE a Brexit, ac yn etholiad cyffredinol 2017. Mae ei waith diweddar hefyd wedi archwilio gwirfoddoli ymhlith ieuenctid, ac yn benodol a all hyn helpu i ennyn diddordeb mwy o bobl ifanc mewn gwleidyddiaeth a lleihau anghydraddoldebau o ran niferoedd pleidleisio, ac mae wedi gweithio gyda Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru ar gyllido gwirfoddoli.
Wrth dderbyn y wobr dywedodd Dr Fox:
“Gall bywyd ymchwilydd gyrfa gynnar fod yn hynod o heriol ac anwadal, ac mae’n foddhaol iawn gweld gwaith caled yn cael cydnabyddiaeth. Rwyf i’n hynod o ddiolchgar i fy nghydweithwyr am fy enwebu a chynnig cymorth ac arweiniad amhrisiadwy drwy gydol fy ngyrfa academaidd, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw i helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr cymdeithasol yng Nghymru.”