Medal STEMM Dillwyn 2018

Dyfarnwyd medal STEMM Dillwyn Dr Gwyn Bellamy, uwch-ddarlithydd yn yr Adran Mathemateg ym Mhrifysgol Glasgow. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddamcaniaeth cynrychiolaeth geometrig, un o’r meysydd oedd yn symud gyflymaf mewn mathemateg yn yr ugeinfed ganrif. Wrth graidd gwaith Dr Bellamy mae cyfathrebu ymchwil a mathemateg, gan gyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg.

Dywedodd Dr Bellamy

“Rwyf i wrth fy modd, ac yn teimlo anrhydedd i gael derbyn medal Dillwyn (STEMM). Mae’n deimlad boddhaol iawn fod Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n gwerthfawrogi ac yn dathlu’r gwaith a wneir gan ymchwilwyr gyrfa gynnar yng Nghymru. Yn benodol, yn fy achos i, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn cyfrannu at gryfhau’r cysylltiadau rhwng mathemategwyr yng Nghymru a’r gymuned fathemategol ehangach ym Mhrydain.”