Y Teulu Dillwyn

Mae’r 3 Medal gyrfa gynnar a wobrwyir wedi’u henwi er anrhydedd i deulu nodedig Dillwyn o Abertawe a gyflawnodd arbenigedd eithriadol ar draws sawl maes gweithgaredd deallusol yn y celfyddydau a’r gwyddorau.

Mae cyswllt teulu Dillwyn â Chymru’n dyddio’n ôl i’r ddeunawfed ganrif, a dyfodiad yr ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth, William Dillwyn. Cyhoeddodd ei fab, y botanegydd talentog Lewis Weston Dillwyn, sawl astudiaeth wyddonol bwysig yn ogystal â chynhyrchu crochenwaith a phorslen artistig cain. Creodd Lewis, oedd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol, ei gartref yn Penllergare ac yn ddiweddarach yn Neuadd Sgeti gyda “hinsawdd ddiwylliannol lle gallai ei holl blant, yn fechgyn a merched, ffynnu, a dilyn trywydd eu diddordebau gwyddonol ac artistig heb gyfyngiadau amser a chost”.  Yn 1848 helpodd gynnal y cyfarfod cyntaf o Gymdeithas Prydain er Dyrchafu Gwyddoniaeth yng Nghymru.

Roedd mab Lewis, John Dillwyn Llewellyn yn rhagori mewn nifer o feysydd technolegol ac academaidd gan gynnwys ffotograffiaeth, botaneg a seryddiaeth. Defnyddiai sawl aelod o’r teulu ystâd Penllergare fel canolfan ar gyfer eu hamrywiol ddiddordebau mewn gwyddoniaeth, seryddiaeth, gwleidyddiaeth, botaneg, ffotograffiaeth a dyngarwch.

Yn anarferol yn y cyfnod hwn, roedd i’r menywod hefyd rôl flaenllaw mewn gwyddoniaeth a busnes, gan gynnwys Mary Dillwyn, ffotograffydd benywaidd cyntaf Cymru, Thereza Dillwyn Llewellyn oedd yn seryddwr ac yn ffotograffydd, ac Amy Dillwyn, diwydiannwr benywaidd cynnar a nofelydd iconoclastig.