Tavi Murray – 2019

Yn 2019 dyfarnwyd y fedal i’r Athro Tavi Murray FLSW o Brifysgol Abertawe i gydnabod ei gwaith ym maes ymchwil rhewlifol.

A hithau’n Wyddonydd Amgylcheddol sy’n arwain y byd, mae’r Athro Murray’n gweithio ar y blaen ym maes rhewlifeg ac wedi torri tir newydd yn y maes gyda defnydd arloesol o dechnegau geoffiseg a synhwyro o bell.

Mae’n ymchwilydd rhyngddisgyblaethol amlwg sy’n pontio ffiseg, daearyddiaeth a chyfrifiadureg yn ei hymdrech i ddarparu gwell cyfyngiadau ar gyfraniadau rhewlifol at godi lefel y môr yn fyd-eang.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd yr Athro Murray:

“Mae’n anrhydedd ac rwyf i wrth fy modd yn derbyn y fedal hon gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Nod fy ymchwil yw gwneud gwell rhagfynegiadau o’r codiad yn lefel y môr o orchuddion iâ yr Ynys Las ac Antarctica, sydd mor bwysig i ddyfodol ein planed. Rwyf i’n gobeithio ysbrydoli rhagor o wyddonwyr ifanc, yn enwedig merched a menywod, i weithio ym maes gwyddoniaeth ac ar faterion yn ymwneud â’r amgylchedd a newid yn yr hinsawdd”.