Dame Jean Thomas – 2016

Yr Athro y Fonesig Jean Thomas FLSW FMedSci FRS oedd enillydd cyntaf Medal Frances Hoggan.

Mae’r fedal, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, yn cydnabod cyfraniadau eithriadol i ymchwil mewn unrhyw faes ymchwil STEMM gan fenyw sy’n byw yng Nghymru, a anwyd yng Nghymru neu a all ddangos cyswllt penodol â Chymru. Mae’r Athro y Fonesig Jean FLSW FMedSci FRS yn Athro Emerita Biocemeg Macrofoleciwlaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt, Meistr Coleg Santes Catharine Caergrawnt ac yn Llywydd y Gymdeithas Bioleg Frenhinol yn ogystal â bod yn Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig a’r Gymdeithas Frenhinol.

Dywedodd y Fonesig Jean:

Rwyf i wrth fy modd ac yn ei theimlo’n anrhydedd i dderbyn y Fedal Frances Hoggan gyntaf. Roedd Frances Hoggan yn arloeswr eithriadol – dim ond yr ail fenyw i dderbyn Gradd Doethur mewn Meddygaeth o Brifysgol Ewropeaidd yn 1870, ac ymgyrchydd a diwygiwr cymdeithasol gweithredol, oedd â diddordeb penodol mewn addysg i ferched yng Nghymru. Bydd creu’r fedal hon nid yn unig yn cadw’r cof amdani’n fyw ond bydd hefyd gobeithio’n ysbrydoli pobl eraill, yn enwedig merched Cymru, i fynd i feysydd STEMM a chydio yn y cyfleoedd mae’r rhain yn eu cynnig.