Sut i enwebu rhywun fel Cymrawd: sesiynau ar-lein
Rydym yn cynnal cyfres newydd o sesiynau ar-lein i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn Gymrawd neu mewn darganfod sut i enwebu. Cawsom adborth gwych o’r rownd gyntaf, felly cofrestrwch.
Os ydych chi wedi dechrau ar eich ffurflen enwebiad a’ch bod yn dymuno cael cyfle i holi cwestiynau neu i geisio cael eglurder ynghylch rhywbeth cyn ei chyflwyno, gallwch gofrestru a galw i mewn yn un o’r sesiynau hyn ar unrhyw adeg yn ystod yr awr a hysbysebir. Mae’r sesiynau hyn ar gyfer Cymrodyr sy’n enwebi a hefyd ar gyfer pobl sy’n cael eu cynnig.
- Galw heibio 1: 5 Medi 10am-11am.
- Galw heibio 2: 17 Medi 1pm-2pm.
Os nad ydych yn gallu mynychu unrhyw un o’r sesiynau hyn, yna cysylltwch â ni yn lsw@wales.ac.uk unrhyw adeg a byddem yn hapus i ddod o hyd i amser i gael sgwrs gyda chi.